Yn dilyn sylwadau’r Canghellor, Rishi Sunak, sydd wedi bod yn annog pobl ifanc i ddychwelyd i’r gweithle, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y dylai gweithleoedd ymddwyn yn bwyllog.
Dywedodd Rishi Sunak yr wythnos hon bod dychwelyd i’r swydd yn gam sy’n “fuddiol iawn” i yrfaoedd pobl ifanc wedi cyfnod hir o weithio o gartref.
Mae’r Canghellor yn rhybuddio nad yw cynadleddau na chyfarfodydd dros fideo yn ddigon effeithiol i bobl ifanc sy’n dechrau ym myd gwaith ac mae’n dweud bod angen iddyn nhw fod nôl yn y byd gwaith wyneb yn wyneb.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddweud y dylai gweithleoedd ymddwyn yn bwyllog wrth ddychwelyd i’r swyddfa.
“Rydym yn glir na ddylai fod yn ofynnol i weithwyr ddychwelyd i leoliad yn y gweithle, na chael eu rhoi o dan bwysau, oni bai bod angen i’r busnes iddyn nhw wneud hynny, neu er mwyn eu lles,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd: “Yng Nghymru rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda chyflogwyr ac undebau llafur ac rydym wedi cymryd agwedd ofalus tuag at lacio’r cyfyngiadau.
“Rydym yn parhau i annog pobl i weithio gartref lle bo hynny’n bosibl.”
‘Symud at system hybrid o weithio’
Yn Lloegr mae Gweinidogion wedi rhoi’r gorau i gyngor swyddogol bod angen i bobl weithio o gartref gan argymell eu bod “yn dychwelyd yn raddol i’r swyddfa dros yr haf”.
Mae Gweinidogion yn disgwyl y bydd mwy o weithleoedd yn barod i gynnal ‘system hybrid’ yn barhaol sy’n golygu y bydd gweithwyr yn gallu gweithio rhai dyddiau yn y swyddfa ac eraill o gartref, ar ôl i’r pandemig sbarduno chwyldro mewn patrymau gwaith.
“Pan ddechreuais i weithio, roedd gen i fentoriaid ac mae nhw’n dal i fod mewn cysylltiad â fi ac wedi bod o gymorth ar hyd fy ngyrfa. Rwy’n amau a fydden i wedi cael y berthynas gref honno pe bydden i wedi dechrau rhan gyntaf fy ngyrfa dros Teams [Microsoft] a Zoom,” meddai Rishi Sunak.
“Dyna pam rwy’n credu bod pobl ifanc yn arbennig yn gorfod bod mewn swyddfa gan ei fod mor werthfawr.”
Patrymau gweithio ers y pandemig
Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn pryderu fwyfwy y gallai canol dinasoedd a threfi gael eu heffeithio wrth i bobl weithio o gartref yn hytrach nag yn y swyddfa ac mae Boris Johnson wedi codi’r mater dro ar ôl tro gydag ASau Ceidwadol.
Mae yna newid sylweddol wedi bod mewn patrymau gwaith ers dechrau’r pandemig.
Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd 20% o bobl yn gweithio gartref gyda 50% nôl yn y swyddfa llawn amser, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd gweithio o gartref ar ei uchaf ymhlith y rhai rhwng 30 a 49 oed – 45% – gan ostwng i 34% ar gyfer y rhai rhwng 16 a 29 oed.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y “dylai cyflogwyr sy’n ystyried ei gwneud yn ofynnol i’w staff ddychwelyd i’r gweithle asesu’n gyntaf y potensial ar gyfer trefniadau amgen gan ymgysylltu’n ystyrlon â’u gweithlu ac undebau llafur.”