Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi dweud y dylai pobl ymddwyn yn ‘synhwyrol’ os ydy’r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19 sy’n weddill yn cael eu codi dros y penwythnos.
Mae’r doctor blaenllaw, sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig, yn dweud fod cyfrifoldeb ar bobl i gadw’n ddiogel wrth i gyfyngiadau’r llywodraeth lacio.
Mae Dr Atherton hefyd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gael brechlyn.
“Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn deall y dystiolaeth, eu bod yn deall y manteision y byddan nhw’n eu cael o frechu, nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i’w hanwyliaid a’u cymunedau,” meddai Dr Atherton.
“Rydym yn dal i fod ynghanol y drydedd don coronofeirws yma yng Nghymru.
“Ond yr hyn rydym wedi’i weld dros y 10 diwrnod diwethaf yw bod y cyfraddau – sydd wedi bod yn eithaf uchel – wedi bod yn sefydlogi, a hyd yn oed yn gostwng ychydig.
“Y peth sydd hefyd yn rhoi cysur i mi yw bod y cyfraddau yn y rhai dros 60 oed wedi bod yn eithaf sefydlog ers cryn amser.”
Disgwyl llacio’r rhan fwyaf o gyfyngiadau
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau ddydd Gwener (6 Awst) a fydd Cymru yn symud at rybudd lefel sero erbyn y penwythnos (Awst 7).
Bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau ar gyfarfodydd dan do a bydd ymbellhau cymdeithasol yn dod i ben.
Yn wahanol i Loegr, bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ond ni fydd angen eu gwisgo mewn tafarndai, bwytai nac ysgolion.
Er na fydd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn gyfraith mwyach, fe fydd angen i leoliadau barhau i gynnal asesiadau risg i benderfynu ar fesurau diogelwch priodol.
Ni fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi derbyn y ddau frechiad orfod hunan-ynysu os ydynt yn dod i gyswllt gyda rhywun sy’n profi’n bositif o Covid-19.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd rhwng 91% a 96% o’r rhai mewn grwpiau oedran dros 60 oed wedi cael eu brechu’n llawn, erbyn 29 Gorffennaf.
Dywedodd fod hynny’n rhoi hyder iddo y gallai cyfyngiadau godi erbyn hyn, gan ychwanegu bod pobl, ar y cyfan, wedi bod yn “cydymffurfio’n fawr” â rheolau ac wedi “ymateb i’r her”.
Mae’r cabinet wedi bod yn cwrdd droeon dros yr wythnos hon gyda disgwyl penderfyniad yfory, cyn y cyhoeddiad ddydd Gwener.