Bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod AmGen 2021 prynhawn ‘ma (dydd Mercher, 4 Awst).
Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol roedd 28 o geisiadau eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu.
Yma mae golwg360 yn cymryd cipolwg ar y pedwar sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol.
Gosia Rutecka
Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Gosia Rutecka wedi ymgartrefu yng Nghwm Rhondda.
Mae ganddi bump o blant ac ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, newidiodd cyfrwng addysg ei dau blentyn ieuengaf trwy eu symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg.
Mae hi’n mynychu dosbarthiadau ac mae hi hefyd wedi ffurfio grwpiau cefnogi i ddysgwyr eraill, gan drefnu siaradwyr i ddod atyn nhw i drafod hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.
Bydd hi’n cychwyn astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ar gyfleoliadau, ym mis Medi.
David Thomas
O Gaerdydd mae David Thomas yn wreiddiol, ac mae’n disgrifio’i hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg.
Mae wastad wedi teimlo bod rhywbeth ar goll o’i fywyd oherwydd hynny.
Ar ôl gadael Cymru i fynd i’r brifysgol, bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.
A chyda’i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau i Gymru gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin.
Mae’n dweud fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae’n ei defnyddio bob dydd gyda’r iaith yn rhan ganolog o bopeth ym musnes y cwpl yn cynhyrchu Jin Talog.
Rob Lisle
Magwyd Rob Lisle ar aelwyd ddi-gymraeg gan dderbyn ei addysg yn Saesneg.
Ar ôl byw yn Llundain, symudodd i ardal Caerfyrddin.
Penderfynodd Rob a’i wraig, Siân, anfon eu plant i ysgol Gymraeg, ac aeth Rob ati i ddysgu’r iaith er mwyn cefnogi’i blant.
Ymunodd â chwrs Cymraeg a daeth yn rhan o nifer o grwpiau lleol.
Mae ganddo ddiddordeb mawr yn yr iaith, ei hanes ac yn niwylliant Cymru.
Jo Heyde
Bedair blynedd yn ôl, fe glywodd Jo Heyde o Lundain y Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn Hydref 2018, penderfynodd fynd ati i ddysgu’r iaith ar ôl ymweld â Chymru.
Dechreuodd wrando ar y radio a chefnogi hynny drwy ddarllen llyfrau Cymraeg, ac ar wahân i ddau gwrs undydd, nid yw Jo wedi mynychu unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg.
Erbyn hyn, mae’n rhan flaenllaw o fywyd Cymraeg Llundain, yn weithgar gyda Merched y Wawr ac yn aelod brwd o’r Clwb Darllen a’r Cylch Siarad yng Nghanolfan Cymry Llundain.