Mae dyddiad wedi’i bennu ar gyfer achos llys dyn 19 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei chwaer 15 oed mewn parc carafannau ger Abergele.

Fe ymddangosodd Matthew Selby yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw (dydd Mercher, 4 Awst) wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ei chwaer, Amanda.

Roedd Matthew Selby, o Ashton-under-Lyne, Manceinion, wedi ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn ar gyfer y gwrandawiad, wnaeth bara tua 15 munud. Fe siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.

Cafodd ei arestio wedi i swyddogion gael eu galw i adroddiad o “aflonyddwch domestig” ym Mharc Gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn, ger Abergele, brynhawn Sadwrn (1 Awst).

Gosododd y Barnwr Rhys Rowlands ddyddiad prawf ar gyfer 28 Chwefror.

Mae disgwyl i’r achos bara pump i saith diwrnod.

Mae disgwyl i Matthew Selbyymddangos ar gyfer gwrandawiad i gyflwyno ple a pharatoi at yr achos ar 29 Hydref.

 

Ty Mawr

Parc gwyliau Tŷ Mawr: cyhuddo dyn, 19, o lofruddio merch 15 oed

Bydd Matthew Selby o Fanceinion yn mynd gerbron ynadon ddydd Mawrth
Ty Mawr

Parc gwyliau Tŷ Mawr: heddlu’n cadarnhau marwolaeth merch 15 oed

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ac yn cael ei holi yn y ddalfa