Perchennog cwmni jin a deimlai fod rhywbeth ar goll am na gafodd gyfle i ddysgu Cymraeg yw Dysgwr y Flwyddyn 2021.
Cafodd David Thomas ei anrhydeddu heddiw (4 Awst) yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel iawn.
Bydd David Thomas, sy’n byw yn Nhalog, Sir Gaerfyrddin, yn “llysgennad ardderchog” dros y Gymraeg, meddai’r beirniaid.
Trwy ddysgu’r Gymraeg, mae David Thomas, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd, wedi “ad-ennill ei etifeddiaeth”, ac mae’n dweud fod dysgu’r iaith wedi trawsnewid ei fywyd.
Mae’n disgrifio ei hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg, ac roedd e’n teimlo fod rhywbeth ar goll yn sgil hynny.
Fe wnaeth 28 o ddysgwyr gystadlu yn y gystadleuaeth eleni, gan gynnwys tri yn yr Unol Daleithiau, a chyrhaeddodd pedwar y rhestr fer – David Thomas, Gosia Rutecka, Rob Lisle a Jo Heyde.
Tasg y beirniaid oedd dewis un enillydd, ac yn dilyn trafodaethau hir, cytunodd y tri beirniad i wobrwyo David Thomas.
Y beirniaid eleni oedd Shirley Williams, Hannah Thomas a Hanna Hopwood Griffiths, ac wrth siarad ar ran y beirniad, dywedodd Hannah Thomas fod y pedwar ar y rhestr fer yn “angerddol” ac “barod i wneud cyfraniad amhrisiadwy” i’r iaith.
“Trawsnewid fy mywyd”
Er i David Thomas adael Cymru i fynd i’r brifysgol ac yna byw yn Lloegr am flynyddoedd, roedd e wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu’r iaith.
Gyda’i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, penderfynodd y ddau ddychwelyd a phrynu tyddyn bach yn Nhalog, Sir Gaerfyrddin.
Yn 2018, agorodd y ddau ddistyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd.
Mae dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd, meddai David Thomas, ac mae’n ei defnyddio bob dydd gyda’r iaith yn ganolog i bopeth yn y busnes.
“Mae wedi bod yn bleser mawr, roedd y beirniaid yn gyfeillgar iawn, maen nhw wedi cefnogi ni hefyd. Mae’n fraint bod yma heddiw,” meddai David Thomas yn ystod y cyhoeddiad ar Radio Cymru.
“Ro’n i wastad wedi teimlo fel bod rhywbeth ar goll.
“Mae [dysgu Cymraeg] wedi cyfoethogi fy mywyd, wedi ehangu fy ngorwelion, agor drysau i fi.
“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel sydd wedi trawsnewid fy mywyd, ond hefyd wedi newid fi fel person.”
‘Trawsnewid bywydau”
Wrth siarad ar ran y beirniaid, meddai Hannah Thomas o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg: “Mae Rob, Gosia, David a Jo yn gymeriadau carismatig, sy’n angerddol dros y Gymraeg ac yn barod yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n hiaith a’n diwylliant – diolch yn enfawr iddynt am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled.
“’Dyn ni’n ffyddiog y bydd y pedwar yn chwarae rôl flaenllaw yn eu cymunedau a thu hwnt, yn llysgenhadon gwych dros y Gymraeg.
“Credwn y bydd llawer yn uniaethu â phrofiad David. Mae dysgu’r Gymraeg wedi bod yn brofiad cwbl gadarnhaol iddo, ac mae bellach yn siarad yr iaith yn naturiol ac yn ei defnyddio ym mhob agwedd ar ei fywyd yn Sir Gâr.
“Mae David yn angerddol am y cyfleoedd mae’r Gymraeg yn ei rhoi i chi a gallu’r Gymraeg, fel sgil ymarferol, i drawsnewid bywydau.
“Wrth ddysgu’r iaith, mae David wedi ymchwilio i’w achau a darganfod bod ei gyndeidiau yn siarad Cymraeg – mae’n teimlo, felly, ei fod wedi ad-ennill ei etifeddiaeth.
“Mae’r Gymraeg o’n cwmpas ym mhob man, ac yn ôl David, does dim cyfrinach i’w dysgu – gydag ymdrech ac amser, mae’n bosibl i bawb. Mae’n berson cynnes, ffraeth a bydd yn llysgennad ardderchog.”
‘Y pedwar yn enillwyr’
“O ran safon, dw i’n meddwl fod y safon yn codi bob blwyddyn ac eleni gaethon ni dipyn o gur pen i ddewis. Bysa’r wobr wedi gallu mynd i fwy nag un person yn sicr,” meddai Shirley Williams, is-gadeirydd Panel Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod yn ystod y cyhoeddiad ar Radio Cymru.
“Mae profiadau pawb mor wahanol, mae pawb wedi dod â rhywbeth gwahanol i’r gystadleuaeth.
“Mae’r pedwar yma yn enillwyr, maen nhw’n anhygoel.”
Cafodd Hanna Hopwood Griffiths y pleser o ymuno â’r panel beirniadu yn ystod y rownd derfynol.
“Roedd e’n braf dim ond gallu cymharu’r pedwar roedd o’m mlaen i, ond roedd hwnna’n dasg eithriadol o anodd,” meddai Hanna Hopwood Griffiths.
“Fe wnaethon ni golli cwsg, roedd e’n fater o drwch blewyn rhwng pawb.
“Dyw hi ddim yn hawdd, mae hi’n anodd concro iaith… mae pob un ohonyn nhw’n haeddu cael eu gwobrwyo, yn sicr.”