Elfen “Siapaneaidd” am hen wreigan yn colli ei chof sydd y tu ôl i lwyddiant nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Ar y cychwyn, mae’n ymddangos mai stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus yw hi am fod – un am hen wreigan gysetlyd gyda chyfrinachau’n llechu yn ei gorffennol a hithau’n brysur golli’i chof… yn ogystal â’r dydd, meddai un o’r beirniaid, Aled Islwyn, am y nofel.
“Ond yn raddol, amlygir dyfnder aeddfetach a hwnnw’n un digon dirdynnol ar brydiau.
“Diolch i’r elfen Siapaneaidd yn arbennig, cynigir perspectif gwreiddiol ar aml i sefyllfa gyfarwydd.”
Mae’r nofel yn trafod y syniad o golli cof, a hynny drwy’r prif gymeriad, Hannah-Jane.
Cafodd yr awdur Lleucu Roberts y syniad am y nofel rai blynyddoedd yn ôl, eglurodd wrth golwg360.
Gwleidyddol
“Y syniad o golli cof ar ffurf Hannah-Jane, y prif gymeriad – bod hi’n colli’i chof. Ond ar yr un pryd bod yna elfennau o adfer cof, o gael gwybod y stori lawn trwy’r ffaith ei bod hi’n colli’i chof.
Mae’r newidiadau gwleidyddol a ddigwyddodd tuag adeg pleidlais Brexit “wrth i bobol sylweddoli bod y byd ddim cweit fel roedden nhw’n meddwl oedd o”, yn gefndir i Hannah-Jane, i raddau.
Meddai: “I raddau hefyd, yn gefndirol mae’r syniad o Brexit, a 2016 mewn ffordd, a’r newid mawr fuodd bryd hynny mewn un ystyr, y newid gwleidyddol oedd yn bodoli’r adeg honno wrth i bobol sylweddoli bod y byd ddim cweit fel roedden nhw’n meddwl oedd o, o bosib.”
“Felly mae hi wedi’i gosod yn benodol iawn yn y flwyddyn 2019, yn sgil Brexit, ac yn y blaen, heb unrhyw syniad wrth gwrs beth oedd yn mynd i’n taro ni wedyn.
“Ro’n i’n ’sgwennu ymlaen hyd at ddiwedd 2019 a dechrau 2020, yn dychmygu hynny, ond nes i fawr ddychmygu beth oedd yn digwydd go iawn efo’r pandemig.”
Er bod Lleucu Roberts yn gwybod ei bod hi wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ers bron i flwyddyn a hanner, cafodd ei anrhydeddu neithiwr (3 Awst) fel rhan o’r Eisteddfod AmGen.
‘Syndod’
Derbyniodd y wobr mewn seremoni arbennig o’r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, ac roedd bod yn rhan o’r Eisteddfod AmGen yn “fraint”, meddai.
“Dw i’n gwybod ers blwyddyn a hanner fwy neu lai, ac roedd hi’n dipyn o syndod ond roedd e’n syndod braf iawn,” meddai Lleucu Roberts, sy’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd, ond yn dod yn wreiddiol o Lanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth.
“Roedd ’Steddfod Tregaron yn mynd i ddigwydd ar y pryd, ac wrth gwrs ddigwyddodd hi ddim, felly mewn ffordd mae’r holl beth wedi bod yn rhyfedd ond yn braf hefyd.
“Achos mae bod yn rhan o rywbeth gwahanol, fel yr Eisteddfod AmGen, yn hyfryd achos mae gymaint o ymdrech wedi mynd mewn i’r holl beth.
“Roedd clywed y feirniadaeth neithiwr yn braf, achos dydi rhywun ddim yn gwybod… mae’n bosib weithiau mai dim ond un sydd wedi cystadlu!
“Ond roedd hi reit braf i’w glywed, ac i glywed bod cyfrolau eraill yna fydd, gobeithio, yn dod allan hefyd.”
Y tri beirniad oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis.
Dyma’r eildro iddi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen, wedi iddi ennill gyda Rhwng Edefyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2ffugenw gan ei fod yn “ffordd dda iawn” o dderbyn sylwadau am ei gwaith.014.
Roedd hi’n gystadleuaeth agos rhwng ‘Ceridwen’, sef Lleucu Roberts, a ‘Mursen’, a phrin fod trwch blewyn rhwng y gweithiau, meddai Aled Islwyn wrth draddodi’r feirniadaeth.
‘Hwb i’r Gymraeg’
Yn ogystal â bod hi’n hoffi’r her o gystadlu, penderfynodd Lleucu Roberts drio am Wobr Goffa Daniel Owen eto gan ei bod hi’n hoff iawn o gystadlu dan ffugenw.
“Dw i’n hoff iawn o gystadlu dan ffugenw achos mae o’n ffordd dda iawn o gael beirniadaeth, a gwybod yn iawn, a chael beirniadaeth deg,” ychwanegodd Lleucu Roberts.
“Mae’n ffordd dda i wybod i sicrwydd beth sydd angen arni, neu beth sydd o’i le arni, mewn ffordd ddienw.
“Roedd hi’n seremoni fach hyfryd, dan amodau Covid wrth gwrs, ond yn gynnes, hyfryd, ac yn wahanol, wrth reswm.
“Ond yn wahanol mewn ffordd braf, mae bod yn rhan o’r profiad AmGen wedi bod yn fraint ac yn bleser achos mae yna gymaint o bobol ymroddgar wedi dod at ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd.
“Mae’r Gymraeg mor ddibynnol ar ’Steddfod flynyddol.
“Mae’r ’Steddfod ei hun yn rhoi cymaint o hwb i’r Gymraeg a’r diwylliant, fel bod gweld sut mae pobol wedi dod at ei gilydd eleni a llynedd, a gydag Eisteddfod yr Urdd wrth gwrs, yn dod â deigryn i’r llygad – gweld pa mor ymroddgar mae pobol wedi bod dan yr amodau amhosib, bron, sydd wedi bod efo ni.”
Bydd modd darllen y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth, ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth ddydd Sadwrn, 7 Awst.
Fe fydd golwg360 yn cyhoeddi holl ganlyniadau’r seremonïau’r wythnos hon, ac mae’r seremonïau’n cael eu cynnal fel a ganlyn:
Nos Fercher 4 Awst, 8yh – Y Coroni
Nos Iau, 5 Awst, 8yh – Seremoni’r Prif Lenor Rhyddiaith
Nos Wener, 6 Awst, 8yh – Y Cadeirio