Roedd ennill y Fedal Ddrama am yr eildro yn “fwy anghredadwy na’r tro cyntaf” hyd yn oed, meddai Gareth Evans-Jones.

Daeth Gareth Evans-Jones yn fuddugol gyda’i ddrama Cadi Ffan a Jan neithiwr (2 Awst), gan dderbyn beirniadaeth hael gan y beirniad.

Roedd y syniad tu ôl i’r ddrama wedi bod yn cyniwair gan Gareth Evans-Jones, sy’n dod o Draeth Bychan, Ynys Môn ac yn darlithio Astudiaethau Crefyddol ym Mangor, ers tro, meddai.

Mae’r ddrama yn dilyn hynt dynes hŷn a brenhines drag sy’n byw gyferbyn â’i gilydd, ac er mai drama ar gyfer dau actor ydi Cadi Ffan a Jan, mae tri chymeriad ynddi.

“Anghredadwy”

“Â dweud y gwir ro’n i wedi synnu braidd, ro’n i wedi bod yn ddigon digywilydd i fynd amdani eto,” meddai Gareth Evans-Jones am ennill y Fedal eleni.

“Pan ges i’r alwad, roedd o hyd yn oed fwy anghredadwy na’r tro cyntaf rywsut.

“Roedd Gwennan [Mair Jones, y beirniad] yn ffeind iawn, roedd o’n sioc â dweud gwir.”

Cafodd enw’r enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig o Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd, ac roedd hi’n “seremoni fach braf”, meddai Gareth Evans-Jones wrth golwg360.

“Ro’n i’n swp sâl cyn y seremoni – poeni’n un peth be fysa’r feirniadaeth yn ddweud, wedyn y peth arall sut oedd y seremoni ei hun yn mynd i weithio.

“Ond roedd pawb mor gyfeillgar ac mor groesawgar, roedd yna naws cartrefol yno. Roedd hi’n brofiad difyr iawn.”

Cymeriadau “crwn”

Y cymeriadau ddaeth gyntaf yn y broses o ysgrifennu’r ddrama, meddai Gareth Evans-Jones, ac yn ei beirniadaeth dywedodd Gwennan Mair Jones fod y cymeriadau yn “grwn” a “naturiol iawn”.

“Dw i ddim yn siŵr iawn o le ddaeth y syniad i ddechrau, ond dw i’n meddwl fod y cymeriadau wedi dod gyntaf, fel cymeriadau ro’n i’n meddwl oedd yn swnio’n ddifyr. A meddwl be os fysa’r cymeriadau yma’n ymwneud â’i gilydd,” eglurodd Gareth Evans-Jones.

“Drama ar gyfer dau actor ydi hi, ond mae yna dri chymeriad. Wedyn mae yna un actor yn perfformio drag, y cymeriad yna, y Cadi Ffan felly, hwnna ydi’r cymeriad drag.

“Mae’n ddifyr o sbïo mewn i hynna, pam fod pobol yn perfformio’r math yna o bethau. Be mae hynny’n caniatáu i rywun ei wneud?

“Pa fath o botensial mae hynny’n gynnig i rywun arddel ryw gymeriad gwahanol, mewn ffordd, a dweud pethau ella fysa nhw eu hunain ddim yn ddweud fel arfer, ond achos eu bod nhw wedi magu ryw bersona arall. Ro’n i’n gweld o’n ddifyr eu bod nhw’n gallu gwneud hynna.”

“Gwerthfawrogi ei sylwadau”

Roedd gan Gareth Evans-Jones y syniad ers tro, a gweld mai Gwennan Mair Jones, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, oedd yn beirniadu oedd y sbardun i gystadlu eto eleni.

“Roedd gen i edmygedd mawr o waith Gwennan Mair, wedyn ro’n i’n meddwl ‘Fyswn i’n licio cael beirniadaeth gan Gwennan hyd yn oed taswn i ddim yn ennill, mae hi’n rhywun fyswn i wir yn gwerthfawrogi ei sylwadau hi’,” meddai.

“Achos bod y syniad yn ryw gyniwair, roedd hi’n handi, mewn ffordd, cael dyddiad cau – roedd hwnna’n sbarduno rhywun i fynd ati i ‘sgwennu a chyflwyno’r gwaith wedyn.”

Enillodd Gareth Evans-Jones y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019 gyda’r ddrama Adar Papur, a chafodd gyfle i’w datblygu wedyn gyda’r Theatr Genedlaethol.

Bydd y ddrama hon yn cael ei hystyried ar gyfer cael ei datblygu mewn partneriaeth gyda’r Theatr Genedlaethol hefyd.

“Roedd gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol efo’r ddrama arall yn brofiad arbennig, mae cael y cyfle i weithio efo unrhyw gwmni yn gyffrous wedyn cael datblygu’r sgript ymhellach,” meddai.

Cafodd Adar Papur ei darlledu’n ddigidol yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo, ac roedd rhaid gwneud rhywfaint o waith addasu arni, meddai Gareth Evans-Jones.

“Roedd honna’n broses ddifyr, trio meddwl ‘Fysa’r fonolog yma’n gweithio ar sgrin ta oes angen ei newid hi ychydig bach neu ei hailwampio hi?’ mewn ffordd.”

Fel drama lwyfan yr oedd Gareth Evans-Jones wedi dychmygu Cadi Ffan a Jan hefyd, ond byddai’n ddigon hawdd ei haddasu, meddai.

“Dw i’n meddwl y bysa hi’n hawdd ei haddasu hi i fod yn ddrama deledu hyd yn oed. Dw i’n meddwl fod yna le i hynny ddigwydd, ond fel drama lwyfan ro’n i’n dychmygu hi.”

Bydd modd darllen y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth, ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth ddydd Sadwrn, 7 Awst.

Fe fydd golwg360 yn cyhoeddi holl ganlyniadau’r seremonïau’r wythnos hon, ac mae’r seremonïau’n cael eu cynnal fel a ganlyn:

Nos Fawrth 3 Awst, 8yh – Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen

Nos Fercher 4 Awst, 8yh – Y Coroni

Nos Iau, 5 Awst, 8yh – Seremoni’r Prif Lenor Rhyddiaith

Nos Wener, 6 Awst, 8yh – Y Cadeirio

Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ddrama’r Eisteddfod AmGen

Dyma’r eildro iddo gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth, wedi iddo ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddwy flynedd yn ôl