Mae Cymdeithas Eisteddofau Cymru wedi lansio cynllun penodol er mwyn ymateb i her yr oes ac i gynnig cymorth ymarferol i bwyllgorau eisteddfodau lleol.

Cafodd strategaeth uchelgeisiol Agorwch y Drysau ei lansio yng Nghyfarfod Blynyddoedd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ddoe (dydd Mawrth, Awst 2), ac fe fydd yn rhoi help i bwyllgorau allu cynllunio at y dyfodol.

Yn yr hydref, bydd cyfres o sesiynau panel arbenigol yn cael eu cynnal bob mis dros Zoom o dan y teitl Mentro Trwy Fentora.

Sesiynau

Bydd y sesiynau’n gyfle i glywed gan drefnwyr digwyddiadau llwyddiannus eleni, gan gynnwys yr Eisteddfod AmGen, Eisteddfod T a Tafwyl.

Fe fydd cyfraniadau gan unigolion sy’n cynrychioli partneriaid cenedlaethol y Gymdeithas hefyd, gan gyflwyno ystod eang o bynciau’n ymwneud â iechyd a diogelwch, hawliau, materion technolegol, cyfathrebu, codi arian a meddwlgarwch.

Y bwriad yw magu hyder, creu egni o’r newydd, diogelu safonau cystadlu a sicrhau cynulleidfaoedd i’r dyfodol.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ar drydedd nos Iau y mis am 7:30yh, rhwng Medi 23 a Thachwedd 25.

Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim i aelodau a chyfeillion y pwyllgorau lleol, yn sgil cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill sy’n cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, y Mentrau Iaith, Cymunedau Digidol Cymru, Bro360, Menter Caerdydd, Merched y Wawr, AM, S4C, PRS a Cymru FM.

O Hydref 4, bydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru’n cydweithio â Chymunedau Digidol Cymru ar chwe chwrs awr o hyd er mwyn helpu’r rhai sy’n llai hyderus i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol, dysgu am hygyrchedd ar-lein a phwysigrwydd iechyd a lles.

Bydd dwy sesiwn awr o hyd yn cael eu cynnal ar Dachwedd 15 a 22, gan edrych ar sut mae paratoi podlediad neu straeon digidol

Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y sesiynau.

‘Cadw’n traddodiad’

Mae angen yr eisteddfodau lleol ar Gymru benbaladr i gadw’n traddodiad diwylliannol yn fyw,” meddai Megan Jones Roberts, cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

“Y gobaith yw y bydd yr holl gynlluniau yma’n hwb i’r cannoedd o wirfoddolwyr wrth i bethau ddychwelyd i’r drefn arferol y flwyddyn nesaf.”

Yn gynnar yn 2022, mae’r Gymdeithas yn bwriadu lansio ail gam y strategaeth.

Bydd Sbardun Steddfota yn canolbwyntio ar briod waith yr eisteddfodau megis cyfansoddi, beirniadu a pherfformio.

Y nod yw parhau i ddatblygu sgiliau, codi safonau, a chreu llwybr cystadlu ar draws holl lwyfannau Cymru.

 

Dyw'r Brifwyl heb ymweld â Thregaron o'r blaen

Gohirio eisteddfodau lleol wedi gadael bwlch mewn cymunedau

Gwern ab Arwel

Mae pryderon am ddyfodol eisteddfodau lleol wedi i lawer ohonyn nhw gael eu gohirio yn ystod y pandemig