Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn yr Hydref i roi cymorth a chefnogaeth i drefnwyr Eisteddfodau lleol.

Daw hyn wedi i nifer o bwyllgorau ohirio digwyddiadau eleni am resymau iechyd a diogelwch, sydd wedi golygu bod effeithiau economaidd a chymdeithasol i nifer o gymunedau.

Mae tref Tregaron wedi colli dwy eisteddfod eleni, yr Eisteddfod Gadeiriol leol ym mis Medi, ac wrth gwrs, yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bu golwg360 yn siarad â rhai o drigolion yr ardal i weld yr effaith mae gohirio wedi ei chael yn lleol.

Rhwystrau i drefnwyr

Fel yr eglura Ffion Lewis-Hughes, ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, mae llawer o rwystrau wedi bod iddyn nhw nhw a oedd yn ei gwneud hi’n amhosibl cynnal digwyddiad eleni.

“Y peth mwyaf yw’r rhwystrau sy’n wynebu pwyllgor bach wrth fynd ati i drio cynnal digwyddiad digidol,” meddai.

“Rydyn ni fel pwyllgor wedi penderfynu peidio mynd lawr yr hewl yna.

“Mae llawer yn teimlo pwysau i gynnal rhywbeth i osgoi colli blwyddyn arall, ond yn gyffredinol ag eisteddfodau bach, mae heriau o ran oedran aelodau’r pwyllgor.

“Os oes aelodau hŷn, mae heriau mawr wrth gynnal digwyddiad yn rhithiol.

“Mae lot o bobl yn ‘zoomed out‘ hefyd, ac wedi cael digon ar wylio sgrin!”

Wrth ystyried yr effaith o ohirio’r eisteddfodau ar y dref, dywed Ffion fod rhaid rhoi iechyd a diogelwch yn gyntaf, er ei bod hi’n ansicr pa gyfyngiadau fyddai’n dal mewn grym erbyn hynny.

“Wrth reswm, bydd effeithiau ar y dref ac ar yr economi yn amlwg,” meddai.

“Roedd y penderfyniadau i ohirio’r ddwy eisteddfod yn anochel, achos roedd rhaid edrych ar iechyd a diogelwch y cyhoedd a’r wlad yn gyffredinol.

“Ond rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobol a chynnal digwyddiadau y flwyddyn nesaf.”

‘Hynod bwysig i werth diwylliannol y dref’

Mae Nia Taylor, un o berchnogion Gwesty’r Talbot, yn nodi bod y manteision diwylliannol o gael eisteddfodau lleol yn gorbwyso’r rhai economaidd.

“[Yn economaidd], maen nhw o fudd i ni i raddau,” meddai.

“Rydyn ni’n cael ychydig o bobol yn dod i mewn am fwyd o flaenllaw, ac oherwydd eu bod nhw’n gorffen yn eithaf hwyr, mae yna bobol yn dod yma am ddiodydd ar ôl iddyn nhw orffen.

“Fyswn i ddim yn dweud eu bod nhw’n cael effaith anferth arnom ni’n economaidd, ond mae’n hynod bwysig i werth diwylliannol y dref cael eisteddfod leol.

“Mae’r gymuned yn manteisio llawer o’r elfen gydlynol ohonyn nhw.

“Byddai eu colli nhw yn cael effaith anferth ar hynny.”

Wrth ystyried yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd fod i gael ei chynnal yn y dref eleni, mae hynny wedi cael effaith mwy “sylweddol” ar fusnesau’r dref, meddai.

“Mae’r ffaith ei fod wedi ei ohirio yn hytrach na’i chanslo yn dyngedfennol.

“Mae wedi cael effaith enfawr ar lawer o’r busnesau yn yr ardal, fyswn i’n dychmygu.

“Roedden ni wedi gwneud eithaf tipyn o’r gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod [Genedlaethol] y llynedd, ond eleni, roedden ni ychydig yn fwy gofalus gan ein bod ni’n disgwyl i’r ŵyl gael ei gohirio.”

‘Rhan fawr o ddiwylliant’

Yn ôl Rhiannon Evans, perchennog siop gemwaith Rhiannon, byddai colli’r eisteddfod leol yn cael effaith enbyd ar y dref.

“Y golled fwyaf i ni’n lleol yw colli’r bwrlwm cymdeithasol yng nghanol y dref,” meddai.

“Mae’r eisteddfodau hyn yn gyfle i bobl gyfarfod ei gilydd, ac maen nhw’n ddigwyddiadau cymdeithasol llawn cymaint â chyfle i gystadlu.

“Mae’n dda bod yna ymdrech yn cael ei wneud i’w cadw nhw i fynd.

“Maen nhw’n bwysig, achos maen nhw’n unigryw i Gymru ac yn rhan fawr iawn o’n diwylliant ni.

“Y peth olaf rydyn ni eisiau ydy eu bod nhw’n marw allan.”