Bydd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud “popeth yn eu gallu” i ddychwelyd i faes traddodiadol yn 2022.
Dyna a ddywedodd prif weithredwr y Brifwyl, Betsan Moses gan awgrymu y bydd yn rhaid gwneud newidiadau i’r maes yn sgil y pandemig coronafeirws.
Cafodd y Steddfod ei gohirio am yr eildro ym mis Ionawr yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y bwriad bellach ydy cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 ac Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.
“Wrth gwrs mae pawb yn awchu i fynd yn ôl i’r cae,” meddai Betsan Moses wrth BBC Cymru Fyw ar drothwy Eisteddfod AmGen, sy’n dechrau ddydd Sadwrn.
Ar raddfa llai
“Yr unig beth sydd ar goll [eleni] yw’r sgwrsio yna ar y maes a chwrdd ag hen ffrindiau, felly mi ‘newn ni bopeth yn ein gallu i sicrhau ein bod ni’n gwireddu gŵyl yn 2022.”
Awgrymodd y gallai’r ŵyl y flwyddyn nesaf fod ar raddfa llai na blynyddoedd blaenorol, ac y byddai’r trefnwyr yn “gwrando ar gynulleidfaoedd”.
“Mae’n edrych yn gadarnhaol. Mi fydd ’na ŵyl ond falle fydd ’na newidiadau a hynny er mwyn diogelwch pobl ond hefyd o ran rhoi gwell profiad iddyn nhw.
“Dy’n ni ddim allan o’r gwaetha’ achos bellach ma’ angen ffeindio beth yw’r gost o fyw gyda Covid.”
Bydd cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn dod i ben bron yn llwyr o ddydd Sadwrn, Awst 7
Perfformiadau
Os fydd amgylchiadau’n caniatáu, bydd dim rheolau ar faint o bobl allai gwrdd tu fewn na thu allan, a bydd canllaw i gadw pellter cymdeithasol yn cael ei ddileu.
Ond dywedodd Ms Moses bod yn rhaid i gytundebau a chynlluniau ar gyfer trefnu Eisteddfod y flwyddyn nesaf fod yn eu lle chwe mis cyn y digwyddiad. Bydd cyfarfod dros yr hydref i drafod gŵyl 2022.
Dydd Sadwrn, bydd Eisteddfod AmGen – fersiwn rithiol o’r Brifwyl – yn cychwyn gydag Eisteddfod Gudd – “gŵyl gerddoriaeth rithiol fwyaf erioed i’w chynnal yn y Gymraeg” gyda bron i 15 awr o gerddoriaeth yn cael ei ffrydio’n fyw.
Mae nifer fach o docynnau hefyd wedi’u gwerthu i wylio’r perfformiadau’n fyw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Maes B
Ymysg y rheini sy’n perfformio y mae Eden, Alffa, criw Welsh at the West End, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub, gyda sesiynau ar leoliad gan Bryn Fôn a’r Band, Huw Chiswell, Kim Hon, Lily Beau a mwy.
Bydd seremonïau Gorseddol hefyd.
Cafodd Maes B ei ohirio yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019 oherwydd y tywydd garw.
Mae’n golygu bod llawer o do ifanc y Steddfod wedi’u hamddifadu o dair blynedd o Faes B – un o brif atyniadau’r genhedlaeth iau yn y Brifwyl.
“I fi y flaenoriaeth yw creu ar gyfer y bobl ifanc achos mae hi wedi bod yn echrydus i bawb dros y cyfnod diwethaf ond hyd yn oed yn fwy fyth i bobl ifanc achos dros nos mae eu rhwydweithiau nhw o ran ysgol, cymuned, popeth wedi cael ei chwalu,” meddai Betsan Moses.
“Mae Maes B yn un o’r arfau hollbwysig yna o ran chwalu’r ystrydeb o beth yw bod yn Gymraeg felly byddwn ni’n sicrhau y bydd yn dychwelyd.”