Mae gan ddeiseb anghyffredin sy’n mynnu bod gan pob darlun o ddraig goch Cymru bidyn, ddigon o lofnodion i’w trafod gan un o bwyllgorau’r Senedd.

Bydd yn rhaid i’r Pwyllgor Deisebau yn Senedd Cymru yn awr ystyried y cynnig anarferol ar ôl i dros 200 o bobl ei lofnodi, sy’n fwy na’r 50 sy’n ofynnol.

Mae hyn yn dal i fod lawer yn llai na’r 10,000 o lofnodion sydd eu hangen er mwyn iddo gael ei ystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Bydd y ddeiseb yn casglu llofnodion tan Ionawr 29, 2022.

Gall deisebau gasglu llofnodion am uchafswm o chwe mis.

‘Nerth’

Crëwyd y ddeiseb gan Rhŷn Williams ac mae’n dweud: “Ym maes symboleg, mae pidyn ar ei godiad yn cyfleu ffrwythlondeb a nerth, ac mae hyn yn bwysicach fyth pan gaiff ei ddefnyddio ar arwyddlun brenhinol er mwyn dangos gallu arweinydd i gynnal teyrnas, gan fod rhaid cyfleu hyn trwy ddelweddau syml, felly… pan fydd gan y ddraig godiad, mae’n cyfleu goruchafiaeth ac arweinyddiaeth, ond pan fydd y pidyn yn absennol, mae’n cyfleu’r creadur (y genedl) fel un darostyngedig, egwan ac eiddil.

“Pan fydd y Bathdy Brenhinol yn ei darlunio, mae’n cydnabod bod gan ein draig bidyn, ond, am ryw reswm, nid felly y mae ein llywodraeth yn ei wneud, ac er y gallai rhai deimlo bod y pwnc yn ddoniol, mae’r delweddiad hwn yn bwysig os ydym am barhau i’w hedfan am ganrifoedd i ddod.”