Mae trafodaeth am effaith lletyau gwyliau sydd heb eu rheoleiddio wedi corddi’r dyfroedd yn Sir Conwy.
Roedd un cynghorydd yn cyhuddo awdurdodau lleol o beidio gweithredu digon wrth archwilio safleoedd Air BnB.
Clywodd aelodau un o bwyllgorau Cyngor Sir Conwy fod safleoedd Air BnB yn y sir wedi tyfu o 135 yn 2016 i 1,627 yn 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar y posibilrwydd o weithredu cynllun trwyddedu ar y cwmni, yn debyg i’r un ar gyfer cartrefi amlfeddiannaeth (HMOs).
Mae’r twf mewn lletyai gwyliau tymor byr hefyd wedi cael effaith niweidiol ar fasnach yn ôl Cymdeithas Lletygarwch Llandudno.
‘Esgeuluso eu dyletswyddau’
Roedd yr adroddiad i’r cynghorwyr yn crybwyll nad oedd yn ofynnol i’r cyngor wirio ansawdd llety fel Air BnB – ond roedd y cynghorydd dros ward Eirias ym Mae Colwyn yn anghytuno â hynny.
“Mae gan swyddogion iechyd yr amgylchedd bŵer o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch i wirio cartrefi gwyliau,” meddai Bob Squire.
“Ond mae gan ein swyddogion amgylcheddol fwy na 3,000 o leoliadau i’w harchwilio – allwch chi ddychmygu petai’n rhaid iddyn nhw wirio [Air BnBs] hefyd?
“Mae gan gynghorau’r pŵer i’w harchwilio eisoes ond maen nhw’n esgeuluso eu dyletswyddau.
“Mae yna bwerau o fewn iechyd a diogelwch a chynllunio i sicrhau eu bod wedi cofrestru.
“Trwy gydol fy ngyrfa rydym wedi cael deddfwriaeth tai ond mae’n ymddangos bod hynny’n diflannu fel iechyd a diogelwch – mae posib atal y sefyllfa hon.
“Mae’r bobl hyn sydd â’r lletyau hyn yn gallu osgoi’r gyfraith a gwneud ffyliaid ohonom ni ar y cyngor.”
Ymateb yr arweinydd
Fe wnaeth arweinydd y cyngor, Charlie McCoubrey, addo rhannu adroddiad gan Dr Simon Brooks sy’n cynnwys 12 awgrym i daclo perchnogaeth ail gartrefi a rheoleiddio lletyau gwyliau.
Dywedodd fod grymoedd tebyg gan Ogledd Iwerddon ers blynyddoedd ac awgrymodd i Lywodraeth Cymru “dynnu eu bysedd allan” a gwneud yr un peth.
Penderfynodd y pwyllgor ofyn i’r arweinydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i orfodi lletyau gwyliau i gofrestru “ar frys”.
Cytunodd hefyd wrth y grŵp tasg sy’n edrych ar dreth twristiaeth bosibl i ystyried materion lleol sy’n ymwneud â rheoleiddio llety gwyliau hefyd.
Bydd y cyngor hefyd yn lobïo Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer cartrefi gwyliau ledled Cymru.