Mae cynllunwyr wedi rhoi cefnogaeth i gynllun ehangu ffatri laeth fydd yn creu 34 o swyddi newydd ym Môn.

Diolch i fuddsoddiad o £20m, gan gynnwys grant o £3m gan Lywodraeth Cymru, mae’r perchnogion ffatri Llaeth Ynys Mona yn bwriadu iddo fod y mwyaf cynaliadwy yn Ewrop, gan redeg ar drydan adnewyddadwy yn unig.

Mewn cyfarfod o’r cyngor sir yr wythnos hon, cafodd y cynlluniau ar gyfer ail gam y prosiect gymeradwyaeth gan gynghorwyr.

Mae gwaith ar y cam cyntaf eisoes ar y gweill ar ôl cael ei gymeradwyo yn 2019, gan greu 30 o swyddi eraill ar ôl cwblhau’r estyniadau i’r adeilad presennol.

Mae’r ail gam hwn yn cynnwys rhagor o waith ar y safle ar Ystâd Ddiwydiannol Mona gan gynnwys:

  • Warws cynhyrchu bwyd newydd.
  • Adeilad newydd ar gyfer unedau DAF.
  • Newidiadau i’r cynllun parcio ceir presennol a’r gwaith tirlunio.

Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer y trydydd cam ddilyn maes o law, gyda’r addewid o gyfanswm o 100 o swyddi.

Byddai’r datblygiad, yn ôl yr ymgeiswyr, yn caniatáu iddyn nhw gynyddu cynhyrchiant o 2,500 tunnell i 7,800 tunnell y flwyddyn.

Wrth annerch aelodau’r pwyllgor cynllunio ddydd Mercher, dywedodd Sioned Edwards o’r asiantau Cadnant Planning:

“Byddai ehangu’r ffatri yn sicrhau dyfodol y busnes.

“Hwn fyddai’r datblygiad mwyaf o’i fath yn y sector bwyd ar draws gogledd Cymru eleni, ac mae’n denu sylw ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

“Erbyn diwedd 2025 rydym yn disgwyl i’r busnes gyflogi 100 o bobol yn lleol ac mae’r cwmni’n awyddus i weithio gyda’r ganolfan technoleg bwyd yng Ngholeg Menai, Llangefni.”