Yn 82 mlwydd oed, bu farw sylfaenydd Gwasg y Dref Wen a’r awdur Roger Boore.

Sefydlodd Wasg y Dref Wen yng Nghaerdydd ynghyd a’i wraig Anne yn 1969; gwasg oedd yn bennaf yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant.

A fyntau’n magu teulu ifanc ar ddiwedd y chwedegau, sylweddolodd cyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael i blant, a pha mor llwm oedd eu diwyg.

Felly, yn y blynyddoedd cynnar hynny roedd y pwyslais ar gyhoeddi llyfrau lliwgar storïol cyn ehangu’r cyhoeddiadau i gynnwys llyfrau addysgol a rhai dwyieithog.

Rhydychen

Ganed Roger yng Nghaerdydd yn 1938, ond fe’i magwyd yn Leamington Spa, Warwickshire. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Warwick a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle yr enillodd Ysgoloriaeth Agored yn y Clasuron yn Rhydychen. Cyn sefydlu’r wasg bu’n Gyfrifydd Siartredig.

Bu’n byw yn y brifddinas am dros hanner cant o flynyddoedd gan fagu ei deulu yn ardal Llandaf i ddechrau cyn symud i’r Eglwys Newydd.

Er iddo gael ei fagu yn Lloegr ar aelwyd di-Gymraeg, roedd Roger yn angerddol am y Gymraeg a dysgodd yr iaith pan oedd yn ei arddegau a magu ei deulu drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yn awyddus i wneud hynny wedi i’w deulu ar ochr ei fam a’i dad golli’r iaith i raddau helaeth cyn ei eni.

Ymhlith cyhoeddiadau’r wasg dan ei reolaeth roedd Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen, Y Geiriadur Lliwgar, a’r cyfresi Storïau Hanes Cymru ac O’r Dechrau i’r Diwedd. Bu iddo ymddeol o’r wasg yn 1999 gan drosglwyddo’r awenau i’w feibion.

Astrix yn Gymraeg

Trosodd Roger Boore lyfrau plant niferus i’r Gymraeg,o amryw ieithoedd gan gynnwys Astrix a Tintin a’r clasur Y Teigr a Ddaeth i De ac yn 1997 dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru. Cafodd hefyd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 2016 am ei wasanaeth.

Enillodd Roger gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a’r cylch 1971 a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen 1972. Yn ogystal â’i drosiadau, mae wedi cyhoeddi casgliad o straeon byrion, nofel i blant a chyfres  o bum llyfr taith yn croniclo hanesion ei deithiau tramor.

Mae’n gadael ei wraig, Anne, ei feibion Gwilym, Rhys ac Alun a saith ŵyr ac wyres.