Mae dau berson, yn cynnwys un o Brydain, wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad ar long olew ger arfordir Oman.

Mae’r llong yn gysylltiedig â biliwnydd o Israel, gwlad sydd â thensiynau gwleidyddol ar hyn o bryd gydag Iran, sydd yn agos i leoliad yr ymosodiad.

Fe gafodd llong olew Mercer Street ei thargedu gan fôr-ladron ym Môr Arabia i’r dwyrain o Oman.

Mae sawl llong arall sydd â chysylltiad ag Israel wedi’u targedu yn y misoedd diwethaf, gyda’r awdurdodau yn Israel yn beio Iran am yr ymosodiadau.

Ar yr un pryd, mae Israel yn cael eu hamau am gyfres o ymosodiadau yn targedu rhaglen niwclear Iran.

‘Môr-ladrad’

Dywedodd y cwmni Llundeinig Zodiac Maritime, sy’n rhan o Grwp Zodiac y biliwnydd o Israel Eyal Ofer, bod y llong wedi ei chofrestru dan faner Liberia a bod y perchnogion o Japan.

Disgrifion nhw’r ymosodiad nos Iau fel “môr-ladrad”, gan gadarnhau bod dau aelod o’r criw wedi marw – un o Brydain a’r llall o Romania.

“Ar adeg yr ymosodiad, roedd y llong yng ngogledd Cefnfor India, yn teithio o Dar es Salaam (Tanzania) i Fujarah (Yr Emiradau Arabaidd Unedig) heb gargo ar ei bwrdd,” meddai datganiad gan y cwmni.

“Dydy’r cwmni ddim yn ymwybodol o niwed i unrhyw aelod arall o’r criw.”