Mae adroddiad newydd ar ran y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) wedi datgelu gwrthgyferbyniad enfawr rhwng etholiadau ar gyfer Senedd Cymru a etholwyd yn gyfrannol o’i gymharu â’r cyntaf yn y ras am Dŷ’r Cyffredin.

Dywed bod pleidleiswyr Cymru’n cael eu hanwybyddu gan system bleidleisio San Steffan.

Mae’r adroddiad yn cynnwys sylwadau gan y Farwnes Randerson, Clive Lewis AS Llafur, yr AoS Plaid Werdd Caroline Russell, a’r Cynghorydd Dave Dempsey.

Mae’r dystiolaeth yn datgelu sut mae’r cyhoedd yn aml yn teimlo’n llawer mwy ymgysylltiedig â’r system ddemocrataidd pan fyddant yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfrif.

Mae hefyd yn datgelu ‘cerydd enfawr’ mewn cynrychiolaeth yn San Steffan o dan drefn ethol y cyntaf yn y ras.

Daw hyn wedi i’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel grybwyll cynlluniau i osod trefn gyntaf yn y ras ar gyfer etholiadau Maer a Chomisiynwyr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, polisi y mae’r ERS yn dweud y byddai’n “troi’r cloc yn ôl” ar ddemocratiaeth.

Mae’r ERS am weld San Steffan – a’r Senedd – yn symud i’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy gyfrannol, sy’n galluogi pobl i raddio ymgeiswyr yn ôl eu dewis, gan roi canlyniadau cyfrannol drwy gael nifer o gynrychiolwyr fesul sedd.

“Argyfwng”

Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru: “Mae argyfwng democrataidd yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda chanlyniadau annheg yn effeithio ar y materion sy’n cael eu clywed yn y Senedd, y lleisiau sy’n siarad dros Gymru, a’r adnoddau sy’n cael eu cyfeirio yma.

“Wrth i ni nodi pen-blwydd y gyfraith a baratôdd y ffordd i’r Senedd, mae mwy i’w wneud i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu clywed, nad oes unrhyw ardal yn cael ei gadael ar ôl, a bod eich pleidlais yn cyfrif ble bynnag y caiff ei bwrw.

“Mae newid yn dechrau gyda system bleidleisio gyfrannol deg yn San Steffan, ac yn gwella ein hetholiadau yma ymhellach ar gyfer y Senedd.”