Mae cwmni o Gaerdydd sy’n cynnig gwasanaethau yswiriant ac adfer cryptoarian wedi ffynnu gyda buddsoddiad o dros $9 miliwn.

Er mwyn galluogi i Coincover godi’r arian drwy gronfa fyd-eang Element Ventures, mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi ymadael yn rhannol â’r cwmni.

Mae Angylion Buddsoddi Cymru, sy’n rhan o Fanc Datblygu Cymru, yn cynnig platfform buddsoddi ar-lein i gysylltu unigolion a buddsoddwyr gwerth net uchel â chyfleoedd cyffrous a chynigion busnes.

Mae angylion buddsoddi, neu angylion busnes, yn unigolion cefnog sy’n buddsoddi mewn busnesau â photensial uchel yn gyfnewid am fod yn berchen ar ran o’r busnes.

Fe wnaeth Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru gefnogi syndicet o angylion busnes gydag uchafswm o £250,000 o gyllid cyfnod cynnar yn Coincover ym mis Tachwedd 2018.

Bydd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cadw rhan o’i chyfranddaliadau yn y cwmni, tra bydd Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi bron i £400,000 trwy gronfa arall.

Cryptoarian a Coincover

Mae cryptoarian yn cyfeirio at fath o arian digidol neu rithiol, sy’n gweithio fel arian arferol ond ei fod e’n bodoli yn electroneg yn unig.

Cafodd Coincover ei sefydlu ym Mai 2018, ac mae eu gwasanaethau’n sicrhau nad yw defnyddwyr a busnesau byth yn colli mynediad at gronfeydd cryptoarian oherwydd camgymeriad defnyddwyr, methiannau busnesau, neu fethiannau seilwaith.

Mae cannoedd o gwmnïau’n defnyddio llwyfan Coincover bellach, gan gynnwys BitGo, Curv a Fireblock – sy’n ddarparwyr waledi, sef darparwyr sy’n cynnig waledi digidol er mwyn cadw arian rhithiol.

Gyda Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn gadael Coincover, yn rhannol, mae’n galluogi i gyfalafwyr menter arbenigol fuddsoddi er mwyn cefnogi twf hirdymor y cwmni.

O ganlyniad i hynny, mae Coincover bellach wedi codi $9.2 miliwn mewn cyllid Cyfres A dan arweiniad Element Ventures, a chyda chyfranogiadau gan sawl menter arall megis Avon Ventures, FinTech Collective, a DRW Venture Capital.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ysgogi ymwybyddiaeth o’r cynnig cynnyrch a thyfu’r tîm fel y gall Coincover gefnogi mwy o’r farchnad crypto.

“Ehangu’n gyflym”

Dywedodd David Janczewski, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Coincover: “Gall Crypto fod yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae gan bobol ofnau dilys ynghylch diogelwch eu harian.

“Gyda Coincover, rydym yn darparu bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer marchnad sy’n aeddfedu’n gyflym drwy sicrhau y gellir amddiffyn pobl rhag gwneud camgymeriad a all gostio miloedd iddynt yn y pen draw.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn ehangu’n gyflym yn unol â gofynion y farchnad a defnyddwyr, ac wrth wneud hynny sicrhau bod mwy o bobl yn gallu buddsoddi mewn crypto yn ddiogel.”

“Taith anhygoel”

Yn ôl Buddsoddwr Arweiniol Angylion Cymru a Chadeirydd y Bwrdd yn Coincover roedd eu cyllid cynnar yn hanfodol i ganiatáu i Coincover allu mireinio a profi’r cynnig yn y farchnad.

“Mae wedi bod yn daith anhygoel i Coincover ers i’n syndicet arwain y rownd ariannu gychwynnol yn 2018. Roedd gallu cael mynediad i Gyd-gronfa Angylion Buddsoddi Cymru ar gyfer cyllid cynnar yn hanfodol i ganiatáu i’r Cyd-sylfaenwyr David ac Adam, a’u tîm cynnar, fireinio a phrofi’r cynnig yn y farchnad a sicrhau ffit cychwynnol yn y farchnad gynnyrch cyn ei lansio’n fasnachol yn 2020,” meddai Ashley Cooper, Buddsoddwr Arweiniol Angylion Cymru.

“Ers ei lansio, mae’r busnes wedi tyfu’n gyflym gyda thwf enfawr yn y tîm, cwsmeriaid a’r Adroddiad Cysoni Blynyddol (ARR).

“Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r buddsoddwyr newydd i helpu i gyflawni potensial enfawr y farchnad drwy ddod yn safon diogelwch fyd-eang ar gyfer cryptoarian.”

“Dangos manteision angel-fuddsoddi”

“Crëwyd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru i annog mwy o angel-fuddsoddi yng Nghymru ac adeiladu mwy o syndicetau angylion,” meddai Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru.

“Mae cyflawni ein hymadawiad cyntaf yn ffordd gadarnhaol iawn o ddangos manteision angel-fuddsoddi. Mae’r gronfa wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi dechrau’r busnes ac mae bellach wedi creu’r lle i fuddsoddwyr sefydliadol mwy arwain y cam twf nesaf.

“Mae elfen o risg bob amser gyda chyllid cyfnod cynnar ond mae hwn yn ymadawiad nodedig i Angylion Buddsoddi Cymru gan ei fod wedi creu’r lle a rhoi cyfranddaliadau ar gael i fuddsoddwyr sefydliadol mwy i gefnogi twf hirdymor Coincover.

“Mae hefyd yn gyfle tymor hwy gwych i’n tîm buddsoddi technoleg arbenigol barhau i gefnogi’r gwaith o ehangu Coincover fel busnes newydd Cymreig sy’n cael ei ariannu gan ecwiti.”