Mae dyn a anfonodd negeseuon Twitter bygythiol at Aelod Seneddol wedi ei orchymyn i beidio â chysylltu â hi am bum mlynedd.
Fe anfonodd Grant Karte, 30, negeseuon bygythiol AS yr SNP, Joanna Cherry ar Chwefror 1, y diwrnod y cafodd hi ei hepgor o griw mainc flaen ei phlaid yn San Steffan.
Mae Karte am fod dan oruchwyliaeth am 15 mis ac yn gorfod gwneud 160 awr o waith di-dâl yn y gymuned.
Fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi danfon nifer o negeseuon Twitter at yr Aelod Seneddol a oedd “yn hynod sarhaus ac o natur anweddus a bygythiol”, yn groes i Ddeddf Cyfathrebu 2003.
Wrth ddedfrydu Karte yn Llys Siryf Caeredin, dywedodd y Siryf Alistair Noble:
“Fe wnaethoch chi bledio’n euog i gyhuddiad difrifol, cyhuddiad yn ymwneud â bygwth Aelod Seneddol.
“Roedd eich bygythiad yn awgrymu trais a gellir dehongli un o’r bygythiadau hyn fel bygythiad o drais rhywiol.”
Dywedodd y Siryf Noble ei fod o’r farn nad oedd angen anfon y dihiryn i’r carchar.
Fe rybuddiodd Siryf Noble pe bai Karte yn torri’r gorchymyn i gadw draw, y byddai yn rhaid iddo ddychwelyd i’r llys.
Bu Ms Cherry, AS De Orllewin Caeredin, yn llefarydd yr SNP ar gyfiawnder a materion cartref yn San Steffan hyd nes ad-drefnwyd y fainc flaen ym mis Chwefror.