Bydd Siapan yn ehangu stad o argyfwng coronafeirws Tokyo i ardaloedd cyfagos a dinas orllewinol Osaka yn sgil y cynnydd uchaf erioed mewn achosion.

Daw hyn wrth i’r wlad gynnal y Gemau Olympaidd.

Mae’r Llywodraeth wedi cymeradwyo cynllun i roi Saitama, Kanagawa a Chiba, yn ogystal ag Osaka, mewn stad o argyfwng o ddydd Llun (2 Awst) tan 31 Awst.

Bydd y mesurau sydd eisoes ar waith yn Tokyo ac ynys ddeheuol Okinawa yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Awst.

Mae Tokyo wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn achosion am dri diwrnod yn olynol, gan gynnwys 3,865 ddydd Iau (29 Gorffennaf).

Mae’r achosion wedi dyblu ers yr wythnos ddiwethaf, ac mae swyddogion wedi rhybuddio y gallent godi i 4,500 y dydd o fewn pythefnos.

Dywedodd swyddogion fod 2,995 wedi’u cludo i’r ysbyty, gan lenwi tua hanner y capasiti presennol o 6,000 o wlâu, gyda rhai ysbytai eisoes yn llawn.

Roedd mwy na 10,000 o bobol eraill yn ynysu gartref neu mewn gwestai, gyda bron i 5,600 yn aros gartref tra bod canolfannau iechyd yn penderfynu ble y cânt driniaeth.

Yng nghyfarfod arbenigwyr y llywodraeth heddiw (dydd Gwener, 30 Gorffennaf), dywedodd y Gweinidog Iechyd Norihisa Tamura fod y sefyllfa yn Tokyo yn “ddatblygiad brawychus sy’n wahanol i unrhyw beth rydym wedi’i weld o’r blaen”.

Adroddodd Siapan 10,687 o achosion ddydd Iau (29 Gorffennaf), gan basio 10,000 am y tro cyntaf.

Mae wedi cofnodi 15,166 o farwolaethau o Covid-19, gan gynnwys 2,288 yn Tokyo, ers dechrau’r pandemig.

“Rhaid i ni lunio mesurau sy’n effeithiol,” meddai llywodraethwr Tokyo, Yuriko Koike.

Ers ddydd Iau, mae 27% o boblogaeth Japan wedi cael eu brechu’n llawn.