Dengys ystadegau newydd fod llai o fyfyrwyr prifysgol wedi derbyn rhywfaint o’u haddysg drwy’r Gymraeg yn y flwyddyn 2019/2020, o gymharu gyda’r flwyddyn flaenorol.

Bu gostyngiad o 5% ar y niferoedd yn y flwyddyn academaidd 2018/19, ac mae yn barhad o ddirywiad cyson ers 2016.

Ac mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr iaith Gymraeg yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i “ddarparu atebion i sut mae’n bwriadu dod â diwedd i’r patrwm cythryblus hwn”.

Daw’r wybodaeth i’r fei wrth i Ystadegau ar gyfer Cymru gyhoeddi ei bwletin ystadegol ar y Gymraeg Mewn Addysg Uwch 2019/20.

Mae’r ystadegau’n dangos fod llai nag un o bob tri o fyfyrwyr prifysgol sy’n rhugl eu Cymraeg yn derbyn peth o’u haddysg drwy gyfrwng yr iaith.

Tra bo 9,860 o fyfyrwyr rhugl i’w cael, dim ond 2,895 sy’n dewis gwneud rhyw gymaint o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae nifer cyffredinol y myfyrwyr sy’n astudio rhyw gymaint o’u cyrsiau yn Gymraeg wedi gostwng o 5,940 yn 2018/19, i 5,635 yn 2019/20.

Fodd bynnag, mae nifer y rhai sy’n astudio o leiaf 80 a 120 o ‘gredydau’ eu cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu, a bod y gostyngiad cyffredinol wedi dod yn bennaf gan fyfyrwyr sy’n astudio llai na phum credyd yn Gymraeg

Athrawon

Mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu’r niferoedd o fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg.

Dengys fod 285 o’r 1,030 o fyfyrwyr  ar gyrsiau hyfforddi i fod yn athrawon yn medru siarad Cymraeg yn rhugl.

Ond 100 yn unig o’r 285 o fyfyrwyr rhugl eu Cymraeg sy’n hyfforddi i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg.

Hefyd, dim ond 22% (225 allan o 1,030) o fyfyrwyr a gwblhaodd gwrs Addysg Addysgu Gychwynnol (AGA) a hyfforddwyd i addysgu trwy gyfrwng Cymraeg.

Mae’r gyfran yr un peth ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif ac mae addysg yn ganolog i’r strategaeth honno.

Mae’r strategaeth a osodwyd yn ei lle yn 2017 yn cynnwys targedau ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng Cymraeg.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Wrth ymateb i’r ffigyrau fe ddywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y corff sy’n gyfrifol dros ddatblygu addysg uwch yn Gymraeg ac yn cael £7 miliwn y flwyddyn i wneud ei waith, fod y coleg wedi cynyddu darpariaeth y Gymraeg mewn prifysgolion.

“Dros yr un cyfnod mae’r nifer o staff mewn prifysgolion sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi codi o 430 i 600 ac mae’r nifer o fyfyrwyr llawn amser sy’n astudio rhywfaint o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg wedi codi o 3,005 i 4,880.

“Er gwaethaf toriad yng nghyllideb y Coleg yn 2016 arweiniodd at leihau’r buddsoddiad yn y sefydliadau addysg uwch, llwyddwyd i gynnal y niferoedd i lefelau eithaf sefydlog am gyfnod ond mae nifer o ffactorau, gan gynnwys sefyllfa ariannol y sector addysg uwch, yn gwneud hynny’n gynyddol heriol bob blwyddyn.”

Fel rhan o Raglen Waith Llywodraeth Cymru maen nhw wedi cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg

Wrth ymateb i’r niferoedd o athrawon sy’n hyfforddi drwy’r Gymraeg, dywedodd y Coleg:

“Mae’r Coleg ymhlith nifer o sefydliadau ac unigolion sydd wedi mynegi pryderon i’r Llywodraeth ynglŷn â’r niferoedd sy’n hyfforddi fel athrawon Cymraeg a dwyieithog.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn gweithio ar gynllun 10 mlynedd i fynd i’r afael â’r sefyllfa ac yn awyddus iawn i gynnig cefnogaeth iddynt a hefyd i Gyngor y Gweithlu Addysg wrth iddyn nhw weithredu eu dyletswyddau statudol yn y maes.”

‘Bydd 2050 yn parhau yn freuddwyd’

Mae’r Gweinidog cysgodol dros y Gymraeg wedi pwysleisio fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hybu defnydd o’r iaith ar ôl gadael yr ysgol.

“Cefnogwyd y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn eang yn y Senedd ond bydd yn parhau i fod yn freuddwyd tan fod pobl yn dewis parhau i’w ddefnyddio’n ar ôl gadael addysg,” meddai Samuel Kurtz.

“Mater i arweinwyr y genedl hon yw annog defnydd o’r Gymraeg ar ôl i ddysgyblion gadael byd addysg.

“Os na allwn ni gael mwy i ddysgu’r iaith ar raddfa ehangach a chynnwys mwy o bobl iau, ni all y Llywodraeth ddisgwyl cynyddu niferoedd o siaradwyr.

“Rwy’n disgwyl i’r Gweinidog ddarparu atebion i sut mae’n bwriadu dod â diwedd i’r patrwm cythryblus hwn.”

Llywodraeth Cymru

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae gan addysg ran enfawr i’w chwarae wrth dyfu’r Gymraeg, ac rydym yn annog mwy a mwy o bobl i gael eu haddysgu yn Gymraeg.

“Er bod nifer y dysgwyr sy’n astudio llai na 5 credyd mewn Addysg Uwch yng Nghymru wedi gostwng, mae’r nifer sy’n astudio mwy o’u dysgu yn Gymraeg wedi cynyddu, sy’n golygu swm mwy sylweddol o ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg.”

 

“Truenus”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am wella’r sefyllfa yn ddioed.

“Mae’r ffigurau hyn yn druenus. Mae’n amlwg nad yw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru i hybu addysg-uwch cyfrwng Cymraeg yn gweithio a bod angen newid gêr, yn enwedig os ydyn nhw am gyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr,” meddai Elin Hywel.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth gynhwysfawr i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg ym mhob cwrs ôl-16, cynyddu cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwyno Deddf Addysg Gymraeg i Bawb gyda’r nod hirdymor o wneud y Gymraeg yn gyfrwng iaith ein holl system addysg gyda thargedau statudol cenedlaethol a lleol i ehangu addysg Gymraeg ar draws y sector.

“Mae hefyd angen cynyddu’r targed o athrawon newydd sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i 80% erbyn 2026, gyda thargedau statudol yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd a rhaglen o gefnogaeth a chymhelliant i alluogi pob athro newydd i astudio a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Gydag ewyllys wleidyddol a chyfarwyddyd clir i’n prifysgolion, gallwn gynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith a sicrhau addysg Gymraeg i bawb ar bob lefel o’r system addysg.”