Mae’r Cymry yn credu bod Llywodraeth Lafur Mark Drakeford wedi delio yn dda gyda’r pandemig, meddai arbenigwyr gwleidyddol o Brifysgol Caerdydd sydd wedi cynnal astudiaeth er mwyn dehongli data o Etholiad Senedd Cymru eleni.
Yn ôl yr ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, roedd pobl Cymru’n gyffredinol yn credu bod y Llywodraeth wedi gwneud gwaith da wrth ddelio gydag effeithiau Covid-19.
Dyma un o’r ffactorau dros ganlyniad cadarnhaol y Blaid Lafur yn yr etholiad, lle enillon nhw 30 sedd – un yn brin o fwyafrif.
Roedd y data hefyd yn ffafriol tuag at y Prif Weinidog a’r ffordd yr oedd o wedi arwain y wlad yn ystod y pandemig.
Daw’r ymchwil sy’n gadarnhaol o safbwynt Mark Drakeford, wedi i gannoedd o bobl fod yn protestio tu allan i’w dŷ’r wythnos ddiwethaf am eu bod nhw’n anhapus â chynlluniau’r Llywodraeth wrth lacio cyfyngiadau – er mae’n debyg mai lleiafrif oedd y rheiny.
Tri ffactor tros lwyddiant y Blaid Lafur
Wrth ddadansoddi, dywedodd y darlithydd gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd, Dr Jac Larner, bod yna “dri phrif ffactor” i ganlyniadau Etholiad y Senedd 2021.
“Yn gyntaf, mae pobl yng Nghymru’n credu’n gyffredinol bod Llafur Cymru wedi gwneud gwaith da ar ddelio â’r pandemig,” meddai Dr Larner.
“Yn ail, mae Mark Drakeford wedi dod yn arweinydd poblogaidd iawn.
“Yn drydydd, mae Llafur Cymru wedi llwyddo’n dda iawn i greu hunaniaeth Gymreig ar wahân, sy’n ei alluogi i siarad â gwahanol rannau o’r gymdeithas.”
Cyferbynnu rhwng y cenhedloedd
Fe wnaeth astudiaeth y Brifysgol ddangos patrymau mewn gwleidyddiaeth ar draws y Deyrnas Unedig hefyd.
“Mae’n ymddangos bod gwahanol bleidiau yng ngwledydd y DU wedi cael y cyfle i gynrychioli gwahanol hunaniaethau’r is-wladwriaethau’n gryf iawn,” ychwanegodd Dr Larner.
“Felly, yn Lloegr, mae’r Ceidwadwyr yn cynrychioli’r hyn y mae’n ei olygu i fod o Loegr.
“Yn yr Alban, mae Plaid Genedlaethol yr Alban yn cynrychioli’r hyn y mae’n ei olygu i fod o’r Alban.
“Yng Nghymru, mae Llafur Cymru’n cynrychioli’r hyn y mae’n ei olygu i fod o Gymru.
“Felly, efallai nad yw’n gwneud synnwyr sôn am wleidyddiaeth Prydain mwyach. Yn hytrach, rydym yn sôn am wleidyddiaeth Cymru, yr Alban a Lloegr.”
Bydd yr academydd yn ymhelaethu ar ei ymchwil yn Eisteddfod AmGen ar y We am 11:30 ddydd Mawrth, 3 Awst.