Mae Keir Starmer wedi herio Llywodraeth San Steffan i ddilyn Cymru a newid rheolau hunanynysu ar 7 Awst.
Mae disgwyl na fydd rhaid i bobol sydd wedi’u brechu’n llawn yn yr Alban hunanynysu o 9 Awst, ond mae Boris Johnson wedi dweud y bydd y newid yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ar 16 Awst.
Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi cwestiynu pam fod Lloegr am gyflwyno’r newid ar ôl Cymru a’r Alban, gan ddweud fod y risg hwn am achosi mwy o boen i deuluoedd a busnesau.
“Haf o ddryswch”
“Mae hwn wedi bod yn haf o ddryswch i deuluoedd Prydeinig a busnesau Prydeinig,” meddai Keir Starmer.
“Dyw’r llywodraeth Dorïaidd erioed wedi gallu esbonio’r rhesymeg tu ôl i’w rheolau hunanynysu, ac maen nhw wedi ailadrodd yr un camgymeriadau dro ar ôl tro.
“Tra bod y cyhoedd ym Mhrydain wedi bod yn trio gwneud y peth iawn, gwelsom ni reddfau’r Llywodraeth pan wnaeth Boris Johnson a Rishi Sunak geisio osgoi’r hunanynysu mae miliynau’n gorfod ei ddioddef.
“Mae agwedd frysiog y Llywodaeth i’r pandemig byd-eang hwn yn crebachu ein heconomi ac yn creu problemau gwirioneddol i fusnesau a theuluoedd. Mae Llafur Cymru wedi dangos be sy’n bosib ei gwneud, ac mae’n amser i’r Torïaid wneud yr un fath.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif am Covid-19, neu sydd gyda symptomau, hunanynysu am ddeng niwrnod – brechlyn ai peidio.
Bydden nhw hefyd yn annog pobol sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif i gymryd prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, p’un a ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn neu ddim.
‘Pingdemig’
Mae Aelodau Seneddol ac arweinwyr busnes wedi annog Boris Johnson i gyflwyno’r newidiadau ynghynt yn Lloegr wedi i gynnydd mewn achosion arwain at dwf sydyn mewn pobol yn cael eu ‘pingio’ gan ap y Gwasanaeth Iechyd.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid, amddiffyn y dyddiad gwreiddiol gan ddweud ei fod e’n rhoi amser i fwy o bobol gael eu brechu’n llawn a lleihau’r risg o salwch difrifol.
Arweiniodd y ‘pingdemig’ at 689,313 o bobol yn cael hysbyseb drwy’r ap yn dweud fod rhaid iddyn nhw hunanynysu’r wythnos ddiwethaf.
Dros y dyddiau diwethaf, mae nifer o silffoedd gwag wedi ymddangos mewn archfarchnadoedd yng Nghymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, yn sgil oedi yn y gadwyn gyflenwi oherwydd diffyg gyrwyr lorïau, a llai o weithwyr mewn stordai.
Mae’n ymddangos fod hyn yn deillio’n bennaf o’r ‘pingdemig,’ er mae un rheolwr un o archfarchnadoedd Tesco wedi awgrymu fod Brexit wedi effeithio’r sefyllfa hefyd.
Ymateb Llywodraeth Prydain
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi amddiffyn penderfyniad Llywodraeth Prydain i leddfu cyfyngiadau hunanynysu ar 16 Awst yn Lloegr.
O’r dyddiad hwnnw, ni fydd y rhai sydd wedi derbyn dau frechlyn ac yn dod i gysylltiad ag achos positif o Covid-19 yn gorfod hunanynysu.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud bydd y newidiadau hynny’n dod i rym yng Nghymru ar 7 Awst.
“Ffactor wrth achub llawer o fywydau”
Yn siarad â Sky News, dywedodd Mr Shapps bod y Llywodraeth “yn adolygu’r dyddiad yn agos iawn”, gydag arweinyddion, yn cynnwys Keir Starmer, yn rhoi pwysau arnyn nhw i symud y dyddiad ymlaen.
“Y gwir amdani yw bod unigolion sy’n ynysu wedi bod yn ffactor wrth achub llawer o fywydau oherwydd mae’n ymddangos bod un o bob tri o bobl sydd wedi eu gorchymyn i hunanynysu yn datblygu symptomau yn y pen draw,” meddai Mr Shapps.
“Felly dyna pam mai dyma’r unig fesur sy’n weddill ar hyn o bryd, wedi i’r holl fesurau eraill gael eu lleddfu ar 19 Gorffennaf.
“Rydyn ni ychydig yn wyliadwrus yn ei gylch, ond mae gennym ni systemau ar waith nawr lle gellir cynnal profion mewn 2,000 o wahanol leoliadau ar gyfer gweithwyr allweddol, fel nad ydyn nhw’n gorfod hunan-ynysu ar 16 Awst.
“O’r dyddiad hwnnw ymlaen, fydd hi ddim yn ofynnol i weithwyr allweddol hunanynysu os ydy’n nhw’n cael prawf negatif.”