Mae nifer o archfarchnadoedd ledled Cymru wedi dioddef o diffyg cynnyrch gan adael sawl silff wag.

Daw hyn yn dilyn oedi yn y gadwyn gyflenwi oherwydd diffyg gyrwyr lorïau, a stordai’n gweithredu ar weithluoedd llai.

Ymddengys bod hyn yn deillio’n bennaf o’r ‘pingdemic’, gyda Brexit o bosib yn cael effaith andwyol hefyd

Yn yr wythnos hyd at 21 Gorffennaf, cafodd 689,313 o bobl orchymyn i hunanynysu ar ôl iddyn nhw gael neges o ap ffôn y Gwasanaeth Iechyd, sef y rhif uchaf am un wythnos ers sefydlu’r ap ffôn.

Roedd hynny bron i 70,000 yn fwy na’r wythnos gynt, er bod y cynnydd fesul wythnos bellach i weld yn lleihau.

Sefyllfa yn yr archfarchnadoedd

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae sawl llun wedi dod i’r amlwg ar gyfryngau cymdeithasol o silffoedd gwag yn rhai o archfarchnadoedd Cymru.

Roedd silffoedd gwag yn Co-Op Llanbedr Pont Steffan yr wythnos diwethaf, isod, gyda’r archfarchnad yn honni bod yna “broblemau cyflenwi ar draws y wlad.”

Silffoedd gwag mewn archfarchnad leol

Dylan Lewis

Dim llysiau na ffrwythau yn y Co-op yn Llanbed bore ‘ma.

”Mae yna ddiffyg gyrwyr, ac yn amlwg oherwydd Covid mae cwmnïau yn methu â chynnal cymaint o linellau cyflenwi â’r arfer,” meddai llefarydd ar ran yr archfarchnad.

“Yn gyffredinol, mae yna ddiffyg argaeledd [mewn nwyddau ac adnoddau] ledled y wlad.

“Rydyn ni’n gwneud yn well na’r mwyafrif o lefydd, sydd wir wedi ei chael hi’n anodd.”

Mae un rheolwr mewn archfarchnad Tesco, sy’n dymuno aros yn ddienw, wedi nodi bod prinder dŵr yn ddiweddar.

“Mae yna lot o bethau yma i gymharu â beth sydd ddim yma,” meddai.

“Dim ond y dŵr sydd yn brin iawn yma gan ei bod hi wedi bod yn boeth.”

Staff wedi eu ‘pingio’

Mae’r archfarchnad Co-Op yn Llanrwst wedi dioddef o ddiffyg cynnyrch yn ddiweddar oherwydd bod y ganolfan ddosbarthu wedi’i effeithio gan absenoldeb staff.

“Mae ein depo wedi cael ei ‘bingio’ gan y Gwasanaeth Iechyd, felly maen nhw’n cael hi’n anodd cael hyd i staff i bacedu bwyd,” meddai llefarydd ar eu rhan nhw.

“Ar hyn o bryd, mae tua 6,000 o bobl yn absennol o’r depos yn genedlaethol.

“Ar ben hynny, mae yna brinder gyrwyr i gludo’r cynnyrch hefyd, ac mae sôn bod gweithwyr y DVLA yn bwriadu streicio, sydd am achosi mwy o brinder gyrwyr.

“Ond heb os, mae’r holl fusnes o brofi ac olrhain a chael eich ‘pingio’ wedi cael effaith fawr arnom ni.”

Yn ôl Co-Op Llanbedr Pont Steffan, mae’r cwmni’n “gweithredu ar 40%” o’u gweithlu, sydd wedi gadael ei farc ar y siopau.

Y cyflenwadau’n brin mewn ail archfarchnad yn Llanbed

Dylan Lewis

Prinder dŵr potel a diodydd meddal yn Sainsbury’s.

Datrysiad?

Mae Llywodraeth San Steffan, sy’n gyfrifol am yr ap yng Nghymru a Lloegr, wedi cynnal trafodaethau brys i sicrhau bod mwy o weithwyr allweddol yn cael eu heithrio o orfod hunanynysu.

Yn lle hynny, byddai nifer helaeth o weithwyr y safleoedd dosbarthu a gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol yn cael cymryd prawf Covid-19 dyddiol.

Ac yn ddiweddar, mae cwmni Tesco wedi cyhoeddi y bydden nhw’n cynnig £1,000 i yrwyr lorri newydd oherwydd y prinder ac i gyrraedd gofynion cyflenwi.

Brexit yn ffactor?

Meddai’r rheolwr o archfarchnad Tesco, mae’n debygol bod Brexit wedi effeithio ar y sefyllfa.

“Mae yna broblem dosbarthu rownd y byd ar hyn o bryd, ond mae’n siŵr bod Brexit ddim wedi helpu hyn,” meddai.

“Mae hynny’n ffactor ar ben Covid a phobl yn gorfod hunanynysu.”

“Fyddai’r Llywodraeth [yn Llundain a Chaerdydd] yn gallu gwneud mwy i’n helpu ni, ond does ganddyn nhw ddim diddordeb go iawn.”

“Rydyn ni’n trio ein gorau i gael cynnyrch i mewn, ac fe gawson ni delivery mawr heddiw felly mae hynny’n obeithiol,” meddai’r rheolwr.

Roedd Co-op Llanrwst a Llanbed hefyd yn ategu bod Brexit ar ben y pandemig wedi gadael ei effaith.