Yn fuan, ni fydd rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad agos ag achos positif o Covid-19.
Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 7 Awst, sef yr un diwrnod ag y mae disgwyl i Gymru symud i lefel rhybudd sero – os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu.
Wrth gadarnhau’r newid heddiw (29 Gorffennaf), dywedodd Mark Drakeford y bydd plant a phobol ifanc dan 18 oed hefyd yn cael eu heithrio rhag yr angen i hunanynysu os ydyn nhw’n gysylltiadau agos i achos positif.
Mae’n rhaid i bawb sy’n profi’n bositif am Covid, neu sydd â symptomau, barhau i hunanynysu am ddeng niwrnod, p’un a ydyn nhw wedi cael eu brechu ai peidio.
Y drefn newydd
Bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn defnyddio Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru i nodi pa oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn.
O 7 Awst ymlaen, bydd swyddogion a chynghorwyr olrhain cysylltiadau yn rhoi cyngor ac arweiniad i bobol sydd wedi’u brechu’n llwyr ar sut i amddiffyn eu hunain yn hytrach na rhoi cyfarwyddyd iddyn nhw hunanynysu.
Bydd rhai mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer pobol sy’n gweithio â phobol sy’n agored i niwed, yn enwedig staff iechyd a gofal.
Fe fydd hyn yn cynnwys asesiad risg ar gyfer staff sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal, a phrofion llif unffordd dyddiol.
Bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu cynghori’n gryf i beidio ag ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal am ddeng niwrnod.
Ar ben hynny, bydd pawb sydd wedi’u nodi fel cyswllt ag achos positif yn parhau i gael eu cynghori i gael prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, p’un a ydyn nhw wedi’u brechu neu ddim.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y newidiadau yn helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau hanfodol sydd wedi’u hachosi gan gynnydd cyflym mewn achosion Covid-19.
Ers diwedd mis Mai, mae achosion wedi codi 800%. Dros yr wythnos ddiwethaf mae cyfraddau achosion wedi dechrau gostwng ymhob rhan o Gymru, gyda rhai’n awgrymu mai cau ysgolion sy’n gyfrifol am hynny.
Sicrhau bod pobol yn dal i weithio
“Mae hunanynysu os oes gennych symptomau neu os ydych chi wedi cael canlyniad prawf positif yn parhau i fod yn fesur pwerus wrth helpu i dorri’r cadwyni trosglwyddo ac atal lledaeniad y feirws. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati gyda hyn, hyd yn oed o ran y bobl sydd wedi cael eu brechu’n llawn,” meddai’r Prif Weinidog wrth gyhoeddi’r newidiadau i’r rheolau hunanynysu.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod cwrs llawn o’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad i bobol rhag y feirws ac maen nhw’n llawer llai tebygol o’i ddal pan fyddan nhw’n cael eu nodi fel cysylltiadau agos. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt hunanynysu am 10 diwrnod mwyach.
“Gallwn ddileu’r angen am hunanynysu ar gyfer y ddwy filiwn o oedolion sydd wedi cwblhau eu cwrs brechu, gan helpu i ddiogelu Cymru a sicrhau bod pobol yn dal i weithio.
“Rydym hefyd yn dileu’r angen i blant a phobol ifanc o dan 18 oed hunanynysu, gan gydnabod yr effaith y mae cyfnodau hir y tu allan i’r ysgol a’r coleg yn ei chael ar eu lles a’u haddysg.”
Bydd y system bresennol o daliadau cymorth i bobl ar incwm isel y mae’n rhaid iddynt hunanynysu am eu bod naill ai wedi profi’n bositif neu’n gyswllt agos â rhywun sydd â’r feirws, yn parhau.
“Angen help pawb”
“Yn anffodus, fel y mae’r misoedd diwethaf wedi dangos, mae’r pandemig yn dal gyda ni,” ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
“Mae angen help pawb arnom i reoli lledaeniad y coronafeirws – mae popeth a wnawn yn cael effaith ar y feirws ofnadwy hwn.
“Mae cael gwared ar hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi cael cwrs llawn o’r brechlyn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ond nid yw’n golygu diwedd ynysu i bob un ohonom. Os ydym am weld diwedd y coronafeirws, mae angen i bob un ohonom gymryd y feirws hwn o ddifrif ac ynysu os oes gennym symptomau a chael prawf.
“Mae hefyd yn bwysig iawn bod pawb yn manteisio ar y cynnig o frechiad. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru – mae clinigau ar agor ym mhob rhan o’r wlad.”