Mae cymdeithas Anabledd Cymru ar fin derbyn grant ar gyfer prosiect newydd, EQuip, gan Gwirfoddoli Cymru.

Byddan nhw’n derbyn swm o £19,720 ar gyfer y cynllun sydd yn mynd i helpu myfyrwyr anabl rhwng 18 a 25 oed sy’n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Bydd y prosiect hefyd yn cysylltu sefydliadau pobol anabl ar draws y wlad er mwyn darparu profiad gwaith a lleoliadau pwrpasol.

Ar hyn o bryd, mae pobol anabl yn wynebu bwlch cyflogaeth o 31%, oherwydd ffactorau fel cyflogau bach, a gwahaniaethu gan gyflogwyr.

Cefnogi myfyrwyr anabl

“Bydd project EQuip yn cryfhau ein gwaith wrth gefnogi myfyrwyr anabl ar leoliad o fewn ein sefydliad,” meddai Rhian Davies, prif weithredwraig Anabledd Cymru.

“Hefyd, bydd yn datblygu gallu sefydliadau pobol anabl i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a dosbarthu grantiau argyfwng Covid-19 i gynnal eu gwaith lleol.

“Bydd yn cynyddu nifer lleoliadau gwirfoddoli a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad gwaith wrth gefnogi twf sefydliadau pobl anabl ar draws y wlad.”

Mae’r sefydliadau dan sylw yn rhai sy’n yn cael eu harwain gan ac ar ran pobol anabl, ac sy’n ymrwymo i gael o leiaf 51% o’r aelodau a byrddau yn disgrifio’u hunain fel person anabl.

Croesawu’r newyddion

Mae Esther Griffiths, Rheolwr Cefnogaeth Anabledd Prifysgol Bangor, yn croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud eu bod yn ymrwymo i gynnig y ddarpariaeth orau posib ar gyfer myfyrwyr sydd ag anabledd.

“Mae gwella’r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr sydd gydag anableddau o bwys i ni, ac yma ym Mangor rydym yn cymryd pob cam posib i waredu ag unrhyw rwystrau diangen a galluogi bod myfyrwyr gydag anableddau yn medru ymgymryd yn llawn â phob agwedd ar fywyd y Brifysgol.

“Rydym yn falch o ddweud bod nifer y myfyrwyr sydd efo anableddau sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol.

“Rydym yn ymwybodol o’r bwlch cyflogaeth ac yn croesawu unrhyw fentrau i roi profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr gydag anableddau.

“Hefyd, rydym yn credu y bydd cyrff pobl anabl yn elwa o’r sgiliau a’r profiad y bydd myfyrwyr y Brifysgol yn eu cynnig.

“Mae gennym gynrychiolaeth myfyrwyr gydag anableddau ar sawl grŵp rhanddeiliaid a phwyllgor ac rydym yn gwerthfawrogi’r adborth yr ydym yn derbyn ganddynt.

“Credwn fod y cyfle i fyfyrwyr weithio gyda chyrff pobl anabl yn un cyffrous ac arloesol.”

Profiad yn ‘werthfawr’

Dros yr hanner blwyddyn ddiwethaf, mae Anabledd Cymru wedi cefnogi wyth myfyriwr drwy gynnig lleoliadau rhithwir ac interniaethau.

“Profodd fy lleoliad gydag Anabledd Cymru yn werthfawr iawn wrth ddysgu llawer am redeg corff pwysig fel hwn,” meddai un ohonyn nhw, Kat, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe.

“Derbyniais groeso cynnes gan y tîm, gan gael fy nghynnwys mewn gwahanol brosiectau.

“O brofi hynny, gallaf weld sut mae [Anabledd Cymru] wedi defnyddio ei arbenigedd i helpu cymaint o sefydliadau pobol anabl yn ystod y pandemig.”