Mae’n rhaid mynd i’r afael ar frys â’r heriau sy’n wynebu ynni gwyrdd yng Nghymru os oes gobaith am fod o gyrraedd y targed o fod yn genedl garbon net sero erbyn 2050, yn ôl Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.
Mae Aelodau Seneddol yn galw am gynllun yn benodol i Gymru gan fanteisio ar y digonedd o wynt a glaw a fyddai’n gallu ei gwneud yn genedl sy’n arwain yn fyd-eang ym maes ynni gwyrdd.
Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod wedi buddsoddi £40m ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd yng Nghymru yn ddiweddar.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi ei huchelgais o wneud Cymru’n genedl garbon net sero.
Wrth siarad â golwg360, dywed Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, fod y pwyllgor wedi dod i’r casgliad fod angen “cynllun clir a chydweithio” rhwng Llundain a Chaerdydd.
“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osod cynlluniau clir a sylweddol ar gyfer egni adnewyddadwy gan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny’n llwyddiannus,” meddai.
Pwysigrwydd y gymuned
Mae’r pwyllgor am weld pwyslais ar gymunedau yn cynhyrchu egni adnewyddadwy eu hunain.
“[Rydyn] ni am weld budd yr holl gyfoeth sy’n cael ei greu yn buddio Cymru ac mae modd gwneud hynny trwy gynllunio ar lefel gymunedol,” meddai Ben Lake wedyn.
“Yn y gorffennol, pan mae trafodaeth am ynni gwyrdd mae cynllun fel arfer yn cael ei orfodi ar gymuned gan gwmni mawr allannol.
“A dyna beth [rydyn] ni’n edrych ar osgoi gan ddod â’r cynllunio, dylunio a datblygu at lefel leol.
“Er enghraifft, mae yna glwb ynni lleol yn Aberteifi ac maen nhw’n ysu i gysylltu’r egni adnewyddadwy i bweru adeiladau lleol a fyddai’n golygu y byddai pobol leol yn talu biliau llai ac yn sicrhau bod unrhyw gyfoeth yn aros yn y gymuned leol.
“Cymunedau yn grymuso eu hunain ymhob ystyr y gair!”
Ar hyn o bryd mae Cymru yn cynhyrchu 26.9% o drydan gan ffynonellau adnewyddadwy o gymharu â 61.1% o ynni’r Alban, 44.6% yng Ngogledd Iwerddon a 33% yn Lloegr.
Ynni Morol
Mae Ben Lake am dawelu’r dyfroedd, gan fynnu nad fydd ynni morol yn digwydd ar draul harddwch naturiol cymunedau arfordirol
“Pan oedd y drafodaeth ar Forlyn Llanw Bae Abertawe, roedd yna dipyn o gefnogaeth ar ei gyfer e,” meddai.
“Ond pan rydyn ni’n sôn am egni morol, mae hynny’n gallu golygu tipyn o wahanol bethau.
“Mae tipyn o bobol yn camgymryd ynni morol, gan feddwl am dyrbinau mawr yn y môr.
“Ond beth rydyn ni’n siarad amdano fan hyn yw technoleg go newydd ac mae datblygiadau ar y dechnoleg newydd yma yn digwydd yn ardal de-orllewin Penfro ar hyn o bryd.
“Mae pobol yn meddwl y bydd y tyrbinau hyn yn bethau gweledol iawn ac sy’n distrywio golygfeydd neis ond, gyda’r dechnoleg newydd yma, fydd hynny ddim yn wir.”
Datganoli grymoedd ynni?
Mae’r adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn galw ar y ddwy lywodraeth yn San Steffan a Bae Caerdydd i gydweithio’n agosach â’i gilydd.
Ar hyn o bryd, mae yna nifer o randdeiliaid sy’n gyfrifol am faes ynni adnewyddadwy gyda grymoedd wedi’u rhannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru, tra bod sefydliadau fel Ofgem, y Grid Cenedlaethol ac Ystad y Goron hefyd yn gyfrifol.
“Barn Plaid Cymru yw y dylid datganoli ynni gwyrdd i Fae Caerdydd ond fel pwyllgor, mi oedd yna drafodaeth a rhai’n gefnogol o ddatganoli a rhai yn ei erbyn,” meddai Ben Lake.
“Fel Aelod Seneddol, dw i’n meddwl fod y dystiolaeth am ddatganoli yn un bwerus iawn ond doedd yna ddim modd dod i gytundeb clir ar hynny.
“Felly beth mae pwyllgor am weld yw cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth ac mae angen cydweithio agos iawn rhwng yr holl rhanddeiliaid.
“Mae’n anhebygol iawn, os nad ydyn ni’n gweithredu ar argymhellion yr adroddiad, y byddwn yn cyrraedd 2050 yn genedl net sero.”
Ymateb y Llywodraeth
“Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddod yn genedl sero net erbyn 2050 ond mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi ein huchelgeisiau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda ni, gyda’n partneriaid a gyda diwydiant Cymru fel y gallwn nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n ein wynebu a chynyddu cyfleoedd yng Nghymru.”