Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Richard Jones, y canwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd, sydd wedi marw’n 65 oed.
Roedd yn canu ac yn chwarae gitâr gydag Ail Symudiad, y grŵp a sefydlodd gyda’i frawd Wyn yn 1978.
Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn nhref Aberteifi.
Y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a’r Sex Pistols oedd prif ddylanwadau’r band, ond llwyddon nhw i greu eu sŵn unigryw eu hunain, gyda chaneuon megis Garej Paradwys, Twristiaid yn y Dre a Geiriau ymysg y rhai mwyaf poblogaidd.
Fe wnaeth y band ryddhau cryn dipyn o recordiau, yn ogystal â sefydlu’r cwmni recordiau Fflach.
Enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen yn 1982.
Ac yn 2010, Ail Symudiad oedd enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP BBC Radio Cymru.
Sefydlwyd is-label Fflach:tradd yn 1997 gan roi sylw i gynhyrchu cerddoriaeth corau, artistiaid gwerin a bandiau pres.
Daw marwolaeth Richard Jones ychydig dros fis ar ol i’w frawd, Wyn Lewis Jones, farw.
‘Does dim modd siarad am un brawd heb y llall’
Un oedd yn adnabod y ddau frawd yn dda oedd DJ Radio Cymru Richard Rees.
Roedd yn ffrind da i aelodau’r band Ail Symudiad, a byddai’n arfer eu cyfweld a chwarae eu caneuon yn rheolaidd ar ei raglen Sosban ar y radio.
“Does dim modd siarad am un brawd heb y llall,” meddai wrth golwg360.
“Roeddwn i gyda Richard bythefnos yn ôl, ac roedd yn dweud mai dymuniad Wyn oedd bod y grwp Ail Symudiad yn parhau felly roedd Richard yn edrych ymlaen at hynny, a bod dyfodol Fflach yn iawn.
“Yn amlwg nawr, mae’r fantell yna’n mynd i basio ymlaen i’r meibion, i’r teulu neu pwy bynnag maen nhw’n trefnu.
“Ond y golled rili ydi rhywun oedd yn angerddol dros roi cyfleoedd i bobol eraill.
“Mae yna nifer o enwau yn y sîn roc yng Nghymru fydden ni ddim yn gwybod amdanyn nhw oni bai eu bod nhw wedi cael y cyfle cyntaf yna gyda bois Fflach.
“Dyna’r golled fwyaf efallai, ein bod ni’n colli rhywun profiadol iawn.
“Roedd y ddau ohonyn nhw’n fois diymhongar iawn, bois Aberteifi i’r carn.
“Roedd ganddyn nhw jyst diddordeb mewn hybu pobol eraill yn y bôn.”
Cynlluniau wedi bod ar y gweill
Mae Richard Rees wedi datgelu bod cynlluniau ar y gweill am gig Ail Symudiad cyn marwolaeth Richard Jones.
“Roedd gig i fod gyda nhw yn y Galeri, dw i’n credu eu bod nhw fod i recordio Noson Lawen neu rywbeth felly.
“Roedd Richard yn eithaf cyffrous am hynny.
“Ac roedd Richard hefyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael mynd i Gaernarfon i gwrdd â ffrindiau ac yn ymfalchïo ei fod yn aros yng Ngwesty’r Celt achos roedd e’n meddwl bod hynna’n ryfeddol o posh.”
Ail Symudiad yn dod i ben yn “golled fawr”
Dywed Richard Rees fod terfyn y band Ail Symudiad yn “golled fawr” i gerddoriaeth Gymraeg
“Wrth gwrs fe wnaeth colli Wyn effeithio ar Ail Symudiad ond mae Ail Symudiad nawr ar ben, achos Richard oedd y canwr, Rich oedd y cyfansoddwr.
“Felly bydd hi’n amhosibl parhau ag Ail Symudiad bellach.
“A dw i’n meddwl bod hynny ynddo’i hun yn golled fawr.
“Dau foi hollol ddiymhongar, oedd mor frwdfrydig dros gymaint o bethau.
“Fel ddywedodd rhywun wrtha i bore ‘ma… dau foi cyffredin iawn oedd wedi cyflawni lot o bethau anghyffredin iawn.”