Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason yw cynhyrchiad byw cyntaf y Theatr Genedlaethol ers i’r pandemig atal cwmnïau rhag perfformio o flaen cynulleidfaoedd byw.

Bydd y ddrama yn mynd ar daith o gwmpas Cymru i lwyfannau awyr agored – heblaw am Ganolfan Mileniwm Caerdydd, a fydd yn digwydd yn y brif theatr, ar batrwm sioe cabaret.