Fel rheol, mae band yn dewis cyfro cân sy’n anthem adnabyddus ac yn diwn y bydd y rhan fwyaf o’r gwrandawyr yn ei hadnabod.
Meddyliwch am Fand Pres Llareggub, Mared a Tara Bethan yn recordio chwip o gyfyr o ‘Chwarae dy gêm’ gan Anweledig yn 2019 i ddathlu hanner canrif o Gwmni Recordiau Sain.
Neu fersiynau gwych ond gwahanol iawn i’w gilydd gan y band gwerin NoGood Boyo a’r rocars trwm Breichiau Hir o ‘Y Bardd o Montreal’, sef clasur Bryn Fôn a’r Band.
Ac mae corau Dyffryn Conwy wedi canu ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’, clasur Y Cyrff, mewn sawl steddfod.
Ond mae criw ifanc ffynci wedi mynd ati yn fwriadol i recordio caneuon llai hysbys gan rai o enwau mawr ôl-gatalog Sain.
Ac mae ffrwyth eu llafur i’w glywed ar yr albwm newydd Wyt ti’n meddwl bod o wedi darfod? – gyda’r teitl yn lyric o’r gân ‘Mynd i ffwrdd fel hyn’ gan Meic Stevens, cân sy’n cael ei chyfro ar y casgliad gan Rhys Gwynfor.
Hefyd ar yr albwm mae caneuon gan Bando, Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Hanner Pei, Sobin a’r Smaeliaid a Heather Jones.
Ond yn eu canu y tro hwn mae rhai o leisiau ifanc y Sîn Roc Gymraeg megis Osian Candelas, Alys Williams, Heledd HMS Morris ac Iwan Fôn, sef canwr Kim Hon a ‘Jason’ y gwerthwr pizzas siriol ar Rownd a Rownd.
A sail y cyfan yw pedwar o gerddorion sy’n galw eu hunain yn Ciwb:
Marged Gwenllian – gitâr fass
Elis Derby – gitâr
Gethin Griffiths – allweddellau
Carwyn Williams – dryms
Mae yno bedigri cerddorol o fewn y Ciwb, gyda Carwyn Williams yn cadw’r bît i doreth o fandiau, gan gynnwys Candelas, Gwilym, Fleyr de Lys ac ati.
Wedyn mae Elis Derby wedi rhyddhau ei albwm ei hun a Gethin Griffiths yn un o awduron blog Sôn am Sîn.
A’r ferch ar y bass yw Marged Gwenllian sydd fel arfer i’w gweld gyda’r Cledrau.
Mae hi’n aelod o’r band hwnnw ers 2012, ac wedi cyhoeddi dwy albwm gyda nhw… ond yn fwy diweddar, daeth y clo i arafu pethau.
Ac yn wir, heb bandemig, mae yn ddigon posib na fyddai criw Ciwb wedi dod at ei gilydd o gwbwl, fel yr eglura Marged.
“Mi ddaeth y locdawn, ac mi wnaeth Elis a Gethin jesd cychwyn gwneud cyfyrs o ganeuon hollol randym efo’i gilydd, ar y We, gan ddefnyddio’r app Acapella – roedd o jesd yn rywbeth iddyn nhw wneud i entyrteinio eu hunain.
“Ac roeddwn i yn gwneud yr un fath, ben fy hun. Yn defnyddio’r app Acapella, fel, dwm’bo, ffordd o ymarfer y gitâr a chael rhywbeth i’w wneud.”
Mae modd defnyddio’r app i recordio sawl haen o gân, ac adeiladu’r trac wedyn drwy osod haenau ar ben ei gilydd.
Bu Marged yn chwarae gwahanol rannau ar y gitâr i ail-greu tracsain y Nintendo Wii “am laff”, ‘Brengain’, gan Sobin a’r Smaeliaid, ‘Does your mother know’ gan Abba, a ‘Tracsiwt Gwyrdd’ gan Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.
“Dyma Elis yn ymateb i un ohonyn nhw a gofyn: ‘Wyt ti ffansi cydweithio efo ni i wneud [tracsain] Grandstand?’
“Felly roedden ni yn dri yn gwneud Grandstand.”
I’r rhai sy’ rhy ifanc i gofio, Grandstand oedd conglfaen teledol y BBC ar bnawn Sadwrn, rhwng 1958 a 2007, yn dangos a thrafod pob math o chwaraeon. Ac roedd theme tune y sioe yn sdoncar.
“Roedden ni yn dechra cael ymatebion ar Twitter, pobol yn licio nhw,” cofia Marged, “a dyma un person yn dweud: ‘Da iawn, ond rydach chi angen dryms’.
“A dyma fi’n gofyn i Carwyn os oedd o’n bôrd ac eisiau ymuno, ac mi’r oedd o.
“A wnaethon ni wneud [tracseiniau] Wimbledon, The A-Team, Tipyn o Stad, Hotel Eddie…”
Roedd yna frolio garw ar y cyfyrs, a doedd neb yn synnu dim pan ofynnodd rhaglen bop Lŵp i’r Ciwbiau wneud cyfyr o gân Gymraeg ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, nôl ym mis Chwefror.
“Roedden ni yn amlwg angen rhywun i ganu,” cofia Marged, “a wnes i ofyn i Malan, achos roeddan ni newydd ei gweld hi’n gwneud Gigs Tŷ Nain, ac roeddwn i yn wirioneddol hoffi ei llais hi.”
Dyma nhw’n recordio fersiwn synhwyrus a hynod cŵl o ‘Smo fi ishe mynd’, cân gyda bass ffynci a gafodd ei recordio yn wreiddiol gan Edward H Dafis.
“Gafodd hwnnw ymateb amazing, ymateb doedden ni ddim yn ddisgwyl o gwbwl,” cofia Marged.
“A dyne wnaeth sbarduno’r syniad o ‘Www, mae yna scope fan hyn i wneud mwy o’r un peth’.
“Ond be’r ydan ni’n trïo mynd amdana fo ydy peidio gwneud y classics – rydan ni’n mynd mwy am yr hidden treasures.”
Trysorau coll Ciwb
Deg o draciau sydd yna ar Wyt ti’n meddwl bod o wedi darfod?, sef:
‘Nos Ddu’ – Heather Jones ganodd y gwreiddiol, Elis Derby sydd wrthi ar fersiwn 2021;
‘Gwawr Tequila’ – un o ganeuon Bando sy’n cael ei chanu gan Mared Williams;
‘Methu Dal y Pwysa’ – Alys Williams yn canu clasur reggae Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr;
‘Ofergoelion’ – Iwan Fôn yn ailddehongli cân gan Tecwyn Ifan;
‘Dagrau o Waed’ – un o ganeuon llai adnabyddus Sobin a’r Smaeliaid yn nwylo Osian Candelas;
‘Rhydd’ – cân hyfryd o hamddenol gan Hanner Pei, wedi ei chanu y tro hwn gan Heledd HMS Morris;
‘Da Ni’m Yn Rhan’ – roc reggae ffynci Maffia Mr Huws wedi ei ailddychmygu gyda help Joseff Owen, canwr Y Cledrau;
‘Pan Ddo’i Adre’n Ôl’ – fersiwn hyfryd o gân Siân James gyda Lily Beau yn benthyg ei llais hudolus;
‘Ble’r Aeth y Haul’ – cân gan Huws Jones gyda chytgan hyfryd, wedi ei chanu gan Dafydd Owain o’r band Palenco y tro hwn;
‘Mynd i Ffwrdd Fel Hyn’ – cân anfarwol Meic Stevens am dor-calon, gyda Mr Rhys Gwynfor ar y meic.
Er nad ydy’r fersiwn newydd o ‘Smo fi ishe mynd’ ar yr albwm, mae hi ar gael i’w ffrydio fel sengl ar lefydd fel Spotify.
Ac mae Wyt ti’n meddwl bod o wedi darfod? hefyd ar gael i’w ffrydio ac i’w phrynu ar gryno ddisg nawr.