Wedi ei magu yn Abertawe, mae Heledd Owen, canwr a gitarydd y triawd gwerin Beca yn astudio Seicoleg yn Aberystwyth, ond ar fin gadael am yr Iseldiroedd…

Ers faint ydach chi’n canu gyda Beca?

Ddaethon ni at ein gilydd fel band ar gwrs Gwerin Gwallgo’ yng Nglan Llyn yn 2019, pan gawson ni gyflwyniad i’r byd gwerin Cymraeg wnaeth ein hysbrydoli ni i feddwl am ddechrau band.