Byddai creu rhwydwaith benodol ar gyfer cwmnïau ffilm annibynnol yn “ffordd dda iawn” o sicrhau tegwch o fewn y sector, meddai un gwneuthurwr ffilmiau.

Yn ôl Lindsay Walker, sy’n gyfarwyddwr ac actor o Ynys Môn, mae’n anodd i gwmnïau bach gael eu troed mewn yn y diwydiant, ac mae cwmnïau mawr yn cael eu blaenoriaethu.

Daw ei sylwadau wedi i’r cynhyrchydd a’r actor Matt Hookings gyhoeddi ei fod e’n gorfod symud y gwaith o ffilmio ei gynhyrchiad i Lithuania yn sgil diffyg cefnogaeth ariannol.

Penderfynodd Cymru Greadigol, corff Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol, beidio ag ariannu’r ffilm am darddiad y gamp o focsio.

Wrth ymateb, dywedodd Cymru Greadigol wrth y BBC eu bod nhw’n gweithio tuag at sicrhau enw da Cymru fel lleoliad ar gyfer cynhyrchu ffilmiau.

“Anodd cael eich troed mewn”

Dywedodd Matt Hooking fod e’n ddiolchgar am y cyllid datblygu a dderbyniodd gan Ffilm Cymru, ond ei fod e’n pryderu am ddiffyg cefnogaeth ariannol ehangach ar gyfer ei ffilm annibynnol.

Pe bai rhagor o gwmnïau ariannu ffilmiau yn fwy hygyrch, ac yn gweithio ar sail proses geisiadau fel Ffilm Cymru, byddai’n gam tuag at wella’r sefyllfa, meddai Lindsay Walker wrth golwg360.

“Dw i yn meddwl fod cwmnïau mawr yn cael eu blaenoriaethu, os ydych chi’n rhan o gwmni mawr rydych chi yn y loop,” meddai Lindsay Walker, fu’n gyfrifol am greu ffilm, The Welshman, am hanes Owain Williams, un o dri Tryweryn, yn ddiweddar.

“Rydych chi ar y tu allan os ydych chi’n gwmni bach gyda sut rydych chi’n trïo mynd mewn i’r cylch yna.

“Mae’n anodd fel cwmni bach i gael eich troed mewn gyda’r bobol hynny sy’n gwneud penderfyniadau mawr.”

Esboniodd Lindsay Walker fod gan sianeli a chwmnïau rwydweithiau lle mae’n bosib cysylltu â chomisiynwyr a chynhyrchwyr, gan ddweud bod e-byst yn cael eu gyrru at gwmnïau mawr.

“Os ydych chi’n gwmni bach, mae cael eich rhoi ar y rhestrau hynny yn eithaf anodd,” meddai.

“Mae’n ymwneud â phwy rydych chi’n eu hadnabod, beth rydych chi wedi’i wneud.

“I fi, dylai gael ei ymestyn. Neu dylai fod mwy o wybodaeth gyffredinol er mwyn gadael i gwmnïau bach fynd drwy system ffiltro, efallai byddai’n rhaid gwneud cais er mwyn bod yn rhan ohono, ond o leiaf fyddech chi’n gwybod bod o’n bodoli.

“Efo pethau bach fel yna mae cwmnïau bach yn cael eu blindsideio, felly mae e’n sicr yn bodoli. Mae’n fynydd mwy i’w ddringo i gwmnïau bach, yn sicr.

“Dydi rhywun ddim hyd yn oed yn gwybod fod pethau hyn yn mynd ymlaen.

“Pe bawn i wedi cael arian ar gyfer The Welshman – wnes i ddim mynd amdano – a gyda rhywbeth i’w ddangos ag enw cwmni arno, yna byddai gen i fewnwelediad gyda’r cwmni penodol hwnnw wedyn i gynhyrchu rhywbeth tebyg eto.”

Rhwydwaith benodol

Yn ôl Lindsay Walker byddai creu rhwydwaith benodol ar gyfer cwmnïau bach yn ffordd dda iawn fynd i’r afael â’r mater, a sicrhau tegwch.

“Gyda ffilmiau annibynnol hefyd, dw i’n meddwl y dylai hynny fod yn benodol iawn… os ydi hi’n ffilm annibynnol gallai cwmnïau estyn allan at gyfarwyddwyr a thimau cynhyrchu annibynnol, llai,” eglurodd Lindsay Walker.

“Dw i’n meddwl y gallai fod yn faes eithaf niche i fod ynddo.

“Dw i’n gallu gwneud cais i Ffilm Cymru os ydw i eisiau, maen nhw’n enghraifft dda achos maen nhw eisiau cyflogi pobol yng Nghymru ac ar y funud maen nhw wir eisiau straeon Cymreig, felly allith rhywun feddwl ‘Dw i’n gyfarwyddwr ffilm annibynnol, mae gen i’r syniad, dw i’n Gymraeg, mae o’n ymwneud â hanes Cymru, allai wneud cais’.

“Mae cwmnïau mawr yn gallu gwneud cais hefyd, mae Ffilm Cymru’n agored iawn. Mae popeth sydd ganddyn nhw ymlaen ar eu gwefan nhw, ond does yna ddim llawer o [sefydliadau] yn gwneud hynny.

“Ond ydi eu cyllideb nhw [Ffilm Cymru] mor fawr â chyrff eraill? Byddech chi’n edrych ar gael tua £10,000 gan Ffilm Cymru – sydd ddim yn lot o arian i wneud ffilm, [ond] mae’n swm da i ddechrau gwneud ffilm,” ychwanegodd.

“Felly efallai byddwch chi’n gorfod mynd i rywle arall i gael mwy o arian,” gan gyfeirio at yr hyn ddigwyddodd i Matt Hookings.

“Oni bai am Ffilm Cymru allai ddim meddwl am gorff arall sy’n hygyrch a hawdd i gael ato yn y ffordd honno.”

Yn ôl Lindsay Walker byddai cael mwy o sefydliadau’n gweithredu system geisiadau fel Ffilm Cymru yn sicr yn gam tuag at wella’r sefyllfa i gwmnïau bach a gweithwyr annibynnol yn y sector.

  • Gallwch ddarllen erthygl o Golwg am ffilm Lindsay Walker, The Welshman, heb wal dalu am gyfnod, isod.

Ffilm sydd “o ddifri” am Owain Williams a bomio Tryweryn

Alun Rhys Chivers

Mae gwneuthurwr ffilm o Ynys Môn wedi rhoi gwedd newydd ar stori a chymeriad sy’n rhan bwysig o hanes mudiad cenedlaethol Cymru, meddai