Bydd 200 o bobol yn cael mynychu’r Eisteddfod AmGen dros y penwythnos wrth i’r Eisteddfod Gudd gael ei chynnal yn Aberystwyth.
Caiff y rhai lwcus fwynhau perfformiad byw yng Nghanolfan y Celfyddydau gan Eden, Alffa, criw ‘Welsh at the West End’, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub.
A bydd modd gwylio’r cyfan ar sgrin wrth i’r Eisteddfod AmGen gael ei ffrydio ar-lein ar wefan yr Eisteddfod.
Yn wahanol i’r llynedd pan drefnodd yr Eisteddfod raglen o weithgareddau’n rhedeg o ganol Mai tan ddechrau Awst, mae’r rhaglen eleni’n para wythnos gyntaf Awst, fel steddfod arferol.
Ddydd Llun bydd gweithgareddau’n cychwyn yn yr ‘is-bafiliynau’ ar hyd a lled y ‘Maes’ rhithiol gyda chyfle i wylio sesiynau o’r Babell Lên, Cymdeithasau, Tŷ Gwerin, Encore, y Pentref Dysgu Cymraeg a mwy ar wefan yr Eisteddfod ac ar YouTube.
Mae’r cystadlu’n ôl eleni hefyd, ac yn cael ei ddarlledu ar Radio Cymru ac S4C bob prynhawn. Bu’r cystadleuwyr yn cael eu ffilmio yng Nghanolfan Pontio, Bangor a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn ddiweddar, gydag ambell un hefyd yn cystadlu o gartref oherwydd cyfyngiadau hunan-ynysu.
’Steddfod heb gae’
“Llynedd, roedd rhaid i ni feddwl dros nos sut allwn ni wireddu ffurf ar yr Eisteddfod, a gwirioneddol edrych ar be sy’n botensial digidol,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth golwg360.
“Dw i’n credu’r flwyddyn hyn roedd hi’n fwy o edrych ar fel gallwn ni adeiladu ar yr hyn a grëwyd llynedd, beth yw’r gwersi a ddysgwyd o’r llynedd, ond hefyd sicrhau ein bod ni’n parhau i esblygu.
“Roedd yna gyfleoedd nawr i ni gael heriau newydd ac i wthio’n hun mwy – dw i’n credu bod hynna’n bwysig.
“Ry’n ni’n gwneud hynny bob blwyddyn mewn Steddfod, does yna’r un Steddfod yr un fath. Dw i’n credu bod hwn yn gyfle i ni fynd â’r digidol i’r lefel nesaf.
“Hefyd mae yna ffurf i ni gael hybrid o ddigwyddiad ar y penwythnos cyntaf, le mae gennym ni rhywfaint o gynulleidfa fyw ond hefyd ei fod e’n cael ei ffrydio,” meddai.
“Felly eleni roedd yna deimlad, yn dilyn yn llynedd, mai adeiladu oedden ni. Ond ein bod ni’n driw i beth ydi ‘Steddfod.
“Fe wnaeth yna rywun ddweud wrtha i’r wythnos ddiwethaf: ‘Dw i’n meddwl bod y rhaglen yma… bod hi’n ‘Steddfod, just bod yna ddim cae’.”
Cynulleidfa fyw
Bydd 200 o bobol yn cael mynychu’r Eisteddfod Gudd yn Aberystwyth y penwythnos hwn, lle bydd perfformiadau gan Eden, Alffa, criw Welsh at the West End, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub.
Hefyd bydd sesiynau ar leoliad gan Bryn Fôn a’r Band, Huw Chiswell, Kim Hon, Lily Beau a llawer mwy yn ffrydio yn ystod y penwythnos hefyd.
Mae’r setiau rhithwir wedi’u recordio mewn sawl lleoliad ledled Cymru gan gynnwys Penmachno, Stiwdio Acapela ym Mhentyrch, Caer Belan yn Ninas Dinlle, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Stiwdio Sain yn Llandwrog, a Nant Gwrtheyrn.
“Mae yna gyfle i bobol o unrhyw fan yn y byd wylio’r ’Steddfod gyda’i gilydd, ond bydd yna gynulleidfa fyw hefyd,” meddai Betsan Moses.
“Roedden ni wedi gallu ychwanegu [tocynnau] wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.”
Cafodd y 200 o docynnau eu hysbysebu drwy gyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Eisteddfod, ac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chyrraedd y gynulleidfa graidd drwy gylchlythyrau, yn ôl Betsan Moses.
Seremonïau “unigryw”
Am y tro cyntaf eleni bydd seremonïau llenyddol yr Eisteddfod yn cael eu cynnal gyda’r nos mewn stiwdio deledu, ac yn cael eu darlledu’n fyw o’r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.
“Mae hwnna’n her hefyd, edrych ar seremoni lle mae’r gynulleidfa, gan amlaf, yn rhan ganolog wrth i’r bardd neu’r llenor godi,” meddai Betsan Moses.
“Wrth gwrs roedd eisiau edrych ar fel fedrwn ni greu seremoni fyw fydd yr un mor emosiynol.
“Beth oedd yn bwysig hefyd, o greu seremoni ei fod e’n gorfod bod yr un effaith. Mae nifer sydd wedi ennill yn dweud mai dyma’r profiad mwyaf trawiadol maen nhw wedi’i chael, felly roedd e’n bwysig ein bod ni’n parhau gyda’r elfen yna – yr urddas o’r seremoni.
“Licien ni ddiolch yn fawr iawn i bawb yn yr Orsedd achos maen nhw wedi bod yn cydweithio ac edrych ar yr opsiynau a phob dim,” ychwanegodd.
“Mi fydd hi’n seremoni wahanol, a bydd hi’r un mor unigryw ac arbennig.
“Mae gennyt ti’r Osgordd a phopeth, wedyn fel wyt ti’n creu’r syniad yna o’r elfen seremonïol ond eto mewn modd stiwdio?
“Y peth mawr ydi pwy sy’n codi, a fel fedrwn ni greu’r foment yna.”
Bydd y seremonïau’n cael eu cynnal fel a ganlyn:
Nos Lun 2 Awst, 8yh – Seremoni’r Fedal Ddrama
Nos Fawrth 3 Awst, 8yh – Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Nos Fercher 4 Awst, 8yh – Y Coroni
Nos Iau, 5 Awst, 8yh – Seremoni’r Prif Lenor Rhyddiaith
Nos Wener, 6 Awst, 8yh – Y Cadeirio
Bydd golwg360 yn cyhoeddi’r holl ganlyniadau.