Sgwâr Canolog Caerdydd fydd cartref yr Orsedd yn yr Eisteddfod AmGen eleni.
Bydd prif seremonïau’r Ŵyl, sy’n bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Cymru ac S4C, yn dod yn fyw o bencadlys BBC Cymru ynghanol Caerdydd.
Fe fydd dirprwyaeth o’r Orsedd, dan arweiniad yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn cynnal seremonïau’r Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Gadair.
“Mor arbennig ag erioed”
“Rydw i a’r Orsedd yn edrych ymlaen yn arw at wythnos yr Eisteddfod. Mae mor braf gwybod ein bod ni’n gallu cynnal defodau’r Orsedd, er ein bod ni’n gorfod gweithio o fewn y cyfyngiadau, wrth gwrs,” meddai’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
“Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cynnig cyfle i ddoniau llenyddol ac yna’n dathlu – gobeithio – eu llwyddiant a’u creadigrwydd eleni.
“Rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau a’r paratoi dros y misoedd diwethaf sy’n golygu ein bod ni’n gallu cynnal seremonïau anrhydeddus a lliwgar.
“Fel pawb arall, rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gwybod a oes teilyngdod eleni, ac yn sicr, os oes enillwyr, yna fe fydd y profiad ychydig yn wahanol i’r arfer, ond yr un fydd y gamp o gyrraedd y brig yn yr Eisteddfod a’n bwriad a’n dyletswydd yw ceisio gwneud y profiad hwnnw mor arbennig a chofiadwy ag erioed.”
“Anrhydeddu gerbron y genedl”
“Pan agorwyd drysau pencadlys newydd BBC Cymru yng Nghaerdydd y llynedd fe wnaethom ymrwymiad y byddem yn sicrhau fod y Gymraeg wrth galon ein gweithgareddau, yn ogystal â’n darllediadau yn y ganolfan yn Sgwâr Canolog,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru.
“Rydw i wrth fy modd felly yn croesawu’r Eisteddfod, yr Orsedd a chynulleidfaoedd rhaglenni’r Eisteddfod i’r adeilad, gan ganiatáu i’n beirdd a’n llenorion gael eu hanrhydeddu gerbron y genedl.”
Y Seremonïau
Am y tro cyntaf, bydd y pum seremoni’n cael eu cynnal gyda’r nos, fel a ganlyn.
Nos Lun 2 Awst, 8yh – Seremoni’r Fedal Ddrama
Nos Fawrth 3 Awst, 8yh – Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Nos Fercher 4 Awst, 8yh – Y Coroni
Nos Iau, 5 Awst, 8yh – Seremoni’r Prif Lenor Rhyddiaith
Nos Wener, 6 Awst, 8yh – Y Cadeirio
Bydd golwg360 yn cyhoeddi’r holl ganlyniadau.