Mae llyfr lluniau newydd sbon i blant a fydd yn cael ei gyhoeddi ar Awst 19 yn rhoi mewnwelediad i blant ynghylch sut beth yw bywyd bob dydd arlunydd.
Wedi’i ysbrydoli gan ei phrofiad ei hun fel arlunydd, mae Kertu Sillaste yn dilyn stori Gwyn yr arlunydd yn y llyfr Artist Ydw I.
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn wreiddiol yn Estoneg, a’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Mary Jones.
Wrth gydbwyso anawsterau a hyfrydwch bywyd arlunydd, mae’r llyfr, sy’n cael ei gyhoeddi gan Graffeg, yn cyflwyno’r proffesiwn i blant fel gyrfa gyffrous ac amrywiol.
Yn ôl yr artist Heledd Owen, mae cyflwyno gwaith artist fel gyrfa i blant yn “ofnadwy” o bwysig, ac mae’n gyfle i bobol sylwi bod “celf yr un mor bwysig â’r un swydd arall”.
Artist Ydw I
Mae’r llyfr yn cyfuno’r heriau o frwydro i ddod o hyd i greadigrwydd a bod eisiau cymeradwyaeth, gyda’r llawenydd o weld gweithiau’n dod yn fyw.
Yn ystod y stori mae Gwyn, yr arlunydd, yn archwilio ystod o gyfryngau creadigol gwahanol, gan gynnwys lluniadu, cerflunio, paentio, ffotograffiaeth a llawer mwy, ac felly’n cyflwyno gwahanol ffurfiau ar gelf i blant a’u hysbrydoli i feddwl yn greadigol.
Gan fod y prif gymeriad yn archwilio ystod o gyfryngau creadigol gwahanol, mae’r llyfr yn ffordd o ddechrau trafodaethau am wahanol ffurfiau celf, a sut mae archwilio creadigrwydd.
Mae’r llyfr yn cyflwyno’r broses greadigol i blant, ac yn gyfle i ennyn diddordeb mewn sgyrsiau am yr heriau a’r pryderon sy’n eu hwynebu.
“Dyma lyfr hyfryd sy’n cynnig anogaeth a hyder i blant archwilio eu hochr greadigol,” meddai Matthew Howard, Cyfarwyddwr Cyhoeddi Graffeg.
“Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn Estoneg, mae Graffeg yn cydnabod fod creadigrwydd yn brofiad cyffredinol felly rydyn ni’n falch iawn o allu chwalu rhwystrau iaith a dod â hyn i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith.”
“Mwy o amser i greu”
Yn ôl Heledd Owen, sy’n ddarlunydd llawn amser o Ynys Môn, dydi’r gwaith ddim yn cael ei ystyried ar yr un lefel â swyddi eraill.
“Dw i reit newydd i gymharu efo lot o artistiaid mae’n siŵr, nes i gychwyn tua’r un amser ag oedd lockdown yn cychwyn,” meddai Heledd Owen, sydd â’i stiwdio ei hun ac yn cyflogi un aelod o staff arall yn rhan amser erbyn hyn, wrth golwg360.
“Felly mae fy holl brofiad i fel artist wedi digwydd o fewn y pandemig rili, felly fydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd bywyd heb lockdowns a thrio cael y balans yna.
“Mae hi wedi bod yn wych, dw i’n meddwl bod o’n help i fi i just creu a chael llonydd a llai o distractions, a mwy o amser i greu.
“Ond mae o’n neis rŵan cael mwy o balans efo bywyd, a gwneud pethau efo ffrindiau ballu.
“Ers blwyddyn i’r mis yma, wnes i ddechrau’n llawn amser. Ro’n i’n gweithio’n rhan amser ar y cychwyn hefyd.”
“Mor bwysig”
Yn ôl Heledd Owen mae dangos y posibilrwydd i blant fod bod yn artist yn yrfa bosib yn “ofnadwy” o bwysig.
“Dw i ddim yn meddwl fod pobol wir yn cysidro fo… dydi o ddim yn cael ei gysidro ar yr un lefel â swyddi proffesiynol eraill,” ychwanegodd.
“Mae’n gwella, ond pan ro’n i yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn cael fy annog gymaint â hynna.
“Es i i’r brifysgol i astudio Darlunio, ond dw i’n meddwl achos ’mod i wedi cael cefnogaeth gan fy nheulu.
“Mae o mor bwysig, mae yna gymaint o swyddi outside the box, ac mae celf yr un mor bwysig ag unrhyw swydd arall dw i’n meddwl.”