Ar ôl 11 mlynedd yn arwain Theatr Genedlaethol Cymru, bydd Arwel Gruffydd yn camu i lawr fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ym mis Mai 2022.

Bydd yn gadael ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Yn wreiddiol o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, ymunodd Arwel Gruffudd â Theatr Genedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr yn 2011.

Mae ei waith cyfarwyddo ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau’r cwmni dros y ddeng mlynedd ddiwethaf: Y TadMacbethChwalfaY Fenyw Ddaeth o’r MôrY Bont, Blodeuwedd Sgint.

Hefyd, mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr y Sherman, Arwel oedd cyfarwyddwr Llwyth ac yna, yn fwy diweddar, Tylwyth gan Daf James – dau gynhyrchiad arloesol a welodd ddathliad o straeon a chymeriadau LHDT.

“Pleser pur”

Dywedodd Arwel Gruffydd: “Heb or-ddweud o gwbl, mae arwain Theatr Genedlaethol Cymru dros y ddeng mlynedd a rhagor diwethaf wedi bod yr anrhydedd fwyaf y gallwn i fod wedi’i dychmygu erioed ac yn uchafbwynt gyrfa i mi.

“Mae wedi bod yn heriol ar adegau, wrth reswm – nid lleiaf felly dros y flwyddyn ddiwethaf – ond mae hefyd wedi bod yn bleser pur.

“Rwyf wedi cael y fraint o wireddu sawl uchelgais bersonol tra’n gweithio ochr yn ochr â lliaws o artistiaid anhygoel a chyd-weithwyr talentog ac ymroddedig, ac wedi cael fy herio hefyd i edrych o’r newydd ar sawl agwedd o’r gwaith a’m gweledigaeth innau.

“Mae digon i’w wneud dros y naw mis sy’n weddill o fy amser gyda’r cwmni, wrth i ni ymdrechu i oresgyn yr argyfwng sy’n parhau i’r diwydiant, ond wrth inni hefyd, gobeithio, weld pethau’n dod yn ôl i drefn, a gweld cynulleidfaoedd yn dychwelyd i’n theatrau; ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r rhaglen o waith uchelgeisiol sydd i ddod gan y cwmni yn y cyfnod hwnnw.”

Dymuno’n dda

Dywedodd Efa Gruffydd Jones, Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru: “Yn ddi-os mae dyled y cwmni yn fawr i Arwel am ei arweinyddiaeth a’i weledigaeth dros y degawd diwethaf.

“Mae ei angerdd dros ddatblygu Theatr Gymraeg o ansawdd yn amlwg i bawb, a hoffwn ddymuno’n dda iddo gyda’i heriau nesaf.

“Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gosod ar seiliau cadarn iawn i’r dyfodol, diolch i ymrwymiad a brwdfrydedd Arwel.”