Er mwyn gallu dangos i’r byd bod hanes hir i ddrama yng Nghymru, mae’r actor a’r cyfarwyddwr o Fôn, Steffan Donnelly, wedi mynd ati i greu gwefan i arddangos dramâu o Gymru.

Bydd Dramâu Cymru / Plays of Wales yn ymddangos yn ystod wythnos Eisteddfod AmGen ac yn cynnwys 100 o ddramâu i ddechrau, ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim.

“Dw i wastad yn cael sgyrsiau efo pobol sy’n gofyn, ‘lle mae dramâu o Gymru?’ a ‘phwy sy’n sgrifennu yng Nghymru?’” meddai’r actor.