Taith feics Prydain 2021 yn dod i Geredigion

Pwy sy’n mynd i fod yn gwylio Taith Feics Prydain eleni? Wel, mi fydd y llwybr 215km yn mynd â’r ras i rannau o ganolbarth Cymru am y tro cyntaf yn hanes modern y Daith, gan gynnwys Aberaeron, y lleoliad cychwynnol yng Ngheredigion, Aberystwyth a’r Borth.

Er bod Ceredigion yn eithaf gwastad o’i gymharu â gweddill y daith, mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad cyffrous i’w gefnogi. Mae mwy o fanylion y llwybr ar BroAber360.

Taith beics Prydain 2021 yn dod i Geredigion

Cefnogwch y beicwyr ar eu taith drwy Geredigion ar yr 8fed o Fedi.

 

Mynyddwr o Fraichmelyn yn dringo’r Matterhorn

Llwyddodd Calum Muskett, sy’n byw ym Mraichmelyn, i ddringo i frig mynydd y Matterhorn yn yr Alpau’r wythnos ddiwethaf. Dyma un o fynyddoedd uchaf Ewrop, sy’n 4,478 metr o uchder. Mae Calum yn fynyddwr profiadol, ac mae ei fagwraeth yn Nyffryn Ogwen wedi chwarae rhan amlwg yn ei yrfa ers iddo gychwyn dringo ar fynyddoedd Eryri yn ei arddegau cynnar.

Mae wedi teithio’r byd yn dringo mynyddoedd mawr a heriol, gan gynnwys wal enwog El Capitan ym Mharc Cenedlaethol Yosemite yn yr Unol Daleithiau. Llongyfarchiadau mawr i Calum, ac i glywed mwy am ei hanes, ewch i Ogwen360.

Synnu at yr ymateb ar ôl dringo un o brif fynyddoedd yr Alpau dwsin o weithiau

Carwyn

Calum Muskett yn dweud fod ei fagwraeth yn Nyffryn Ogwen wedi bod o gymorth i’w lwyddiant 

 

Lleidr blodau yn Llanbed

Adroddwyd ar wefan Clonc360 yn ddiweddar pa mor hardd yw tref Llanbed oherwydd ymdrechion y Ganolfan arddio leol a’r Cyngor Tref i roi blodau ar y strydoedd ac o gwmpas y siopau. Ers hynny, mae pum planhigyn Geranium wedi diflannu. Dywedodd Robert o’r Ganolfan Arddio ei fod yn “grac iawn” wedi clywed fod rhywun wedi dwgyd planhigion o’r pot mawr ger yr arwydd “Croeso i Lanbed” ar ffordd Aberaeron.

Bwriad plannu’r holl flodau yw creu golygfeydd hardd o gwmpas y dref ac adlewyrchu pa mor apelgar a chroesawgar yw’r ardal. Mwy ar Clonc360.

Rhywun wedi bod yn dwyn blodau #Llanbedyneiblodau

Dylan Lewis

Pum planhigyn Geranium wedi diflannu ger arwydd Llanbed ar Ffordd Aberaeron.

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Silffoedd gwag mewn archfarchnad leol, gan Dylan Lewis ar Clonc360
  2. Disgyblion Syr Hugh Owen yn trawsnewid gardd Plas Maesincla, gan Mirain Llwyd Roberts ar Caernarfon360
  3. Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol yn Llanybydder, gan Gwyneth Davies ar Clonc360