Os nac oeddech chi wedi sylwi, mae yna broblem efo cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae covid wedi atgyfnerthu hynny …

“Do, mae Llywodraeth Cymru, diolch byth, wedi bod yn fwy gofalus na’u cymheiriaid yn Llundain (er na ddylen ni anghofio bod y cyn-Weinidog Iechyd Vaughan Gething wedi gwneud rhai camgymeriadau anferth ynghylch diogelu cartrefi gofal y llynedd ac, ar y dechrau, wedi gwrthod gorfodi mygydau mewn siopau). Ond datganoli neu beidio, rydyn ni wedi ein clymu at ffawd Lloegr a phenderfyniadau ei llywodraeth. Ry’n ni’n rhannu ynys, yn rhannu anwyliaid ac, heb gau’r ffiniau (rhywbeth na ddylai neb ei fod eisiau) rydym wedi ein melltithio cymaint â’r Saeson gan rhythm parhaus methiant a diffyg cyfrifoldeb yn San Steffan.” (Rebecca Wilks ar thenational.cymru)

O ia, a phroblem arall …

“Does yna ddim ffordd o ddelio gyda Phrif Weinidog sy’n dangos nad yw’n ffit o gwbl i fod yn y swydd, hyd yn oed pan fydd y diffyg cymhwyster yna i’w weld mewn degau o filoedd o farwolaethau cynnar a diangen. Yn hytrach, mae’r drefn wleidyddol yn rhoi grym llwyr i arweinydd y blaid sy’n cael y nifer mwya’ o seddi, hyd yn oed pan fyddan nhw wedi eu hennill gan leiafrif o bleidleisiau. Ac mae fe neu hi wedyn yn cadw’r grym llwyr yna hyd nes y bydd etholiad yn cael ei alw neu bod ei phlaid e neu hi yn troi yn erbyn deiliad y swydd.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

Ac, yn ôl Peter Black, mae yna broblem arall i’r Blaid Lafur. Yn Lloegr, mae ei haelodau yn beio’r Llywodraeth Dorïaidd am roi dim ond cynnydd o 3% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd … yn union yr un swm ag y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gynnig …

“A yw sylwadau’r Gweinidog Iechyd Cysgodol yn Lloegr hefyd yn gymwys i’w gymrodyr yng Nghymru…? All Llafur ddim ei chael hi ddwy ffordd ar y mater yma. Os yw’r codiad cyflog yn ddigon da i Gymru, pam nad yw e’n ddigon da i Loegr, ac fel arall rownd? Efallai bod angen i’r ddwy lywodraeth fynd yn ôl i’r dechrau a chynnig rhywbeth mwy derbyniol.” (peterblack.blogspot.com)

Ond mi allai pethau fod yn waeth … mewn llyfr newydd mae’r blogiwr Iain Dale yn dychmygu bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a’r Brenin Charles III yn cyflwyno Araith y Brenin yn Nhŷ’r Cyffredin i gyflwyno ei chynlluniau …

“Roedd y Brenin yn cyrraedd diwedd yr araith. Oedodd, ond gwyddai y byddai’n rhaid iddo barhau. Dyletswydd oedd popeth. ‘Bydd fy llywodraeth yn tynnu’r Deyrnas Unedig o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a bydd…’ Roedd yna furmur ymhlith yr Arglwyddi, gyda sawl gwaedd ‘Na!’. Arhosodd y Brenin am ennyd, edrych lan ac wedyn parhau, ‘a bydd yn cyflwyno Mesur i ddeddfu ar gyfer refferendwm ar adfer y gosb eithaf.’ Roedd yna anhrefn. Welwyd y fath olygfeydd erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi.” (iaindale.com)