Mae digonedd o bobol – fel yr awdur Lleucu Fflur Jones – yn hoffi gwylio tîm rygbi Cymru o dro i dro, ond heb fod yn ddilynwyr brwd o’r gêm. Ond dim ond sgrifennwr medrus sy’n seilio nofel ddirgelwch gyfan ar aelodau tîm rygbi lleol am ei fod yn cynnig pob math o bosibiliadau creadigol.
“Dw i wedi bod yn trïo meddwl o ble’n union y daeth y syniad o rygbi,” meddai.