Mae cais cynllunio ar gyfer adeiladu cyfleuster profi rheilffyrdd gwerth £1.5m wedi’i gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Powys.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) yn cael ei hadeiladu ar y ffin rhwng Powys a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i’r cais.

Fe fydd y cyfleuster profi trenau, rheilffyrdd a thechnoleg yn darparu cyfleuster unigryw yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop ar gyfer cefnogi arloesedd rhyngwladol yn y diwydiant, gan gynnwys drwy brofi technolegau gwyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot i ddatblygu cynigion ar gyfer y Ganolfan.

Bydd y Ganolfan wedi’i lleoli ar safle pwll glo brig Nant Helen a Chanolfan Ddosbarthu Golchi Glo Onllwyn, a bydd yn cwmpasu ardal o tua 475 hectar ac yn cynnwys dau brif drac, un yn drac cerbydau cyflym wedi’i drydaneiddio a’r llall yn drac prif seilwaith cyflymder isel.

Bydd y safle’n cynnwys swyddfeydd gweithrediadau a rheoli, llety staff, cabanau siyntwyr a chyfleusterau ar gyfer ymchwil a datblygu, ac addysg a hyfforddiant.

Cafodd cymeradwyaeth amodol ei rhoi i’r Ganolfan heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 29), pan glywodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Powys fod gan y cynnig gefnogaeth lawn Gwasanaethau Datblygu Economaidd y cyngor.

“Cam ymlaen”

“Mae hwn yn gam hanfodol ymlaen yn y cyfle gwych hwn ar gyfer swyddi a thechnoleg ym Mhowys a de-orllewin Cymru,” meddai’r Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys.

“Mae gan y ganolfan y potensial i hybu buddsoddiad a lles economaidd yr ardal. Mae’n cefnogi ein hangen i symud i gymdeithas carbon isel ac i ddod â diwydiannau sy’n fwy ecogyfeillgar i’r ardal.”

“Buddsoddiad rhagorol”

“Mae’r penderfyniad cynllunio yn paratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad a allai fod gwerth £150m yn y rhanbarth gan greu swyddi o ansawdd uchel i’r rhanbarth gyda’r potensial o hwb gwirioneddol i swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a thu hwnt,” ychwanegodd y Cynghorydd Iain McIntosh, yr Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Economaidd.

Cafodd y cais cynllunio, a gafodd ei gyflwyno gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, ei gymeradwyo gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ddechrau’r wythnos.

“Dyma fuddsoddiad rhagorol mewn swyddi a thechnoleg, nid yn unig ar gyfer ardal Cwm Tawe a Dulais, ond ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a rhanbarth De Orllewin Cymru gyfan,” meddai’r Cynghorydd Ted Latham, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Bydd hefyd yn arddangos Castell-nedd Port Talbot ar raddfa genedlaethol a byd-eang ac mae ganddo’r potensial i gefnogi buddsoddi ehangach a hybu adfywiad economaidd yr ardal.”

“Cefnogi adferiad”

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r cynghorau, byddai’r Ganolfan yn cefnogi’r adferiad ar ôl y pandemig hefyd.

“Mae’r GCRE yn cynnig cyfle i fuddsoddi’n sylweddol mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Byddai hyn o fudd i Gastell-nedd Port Talbot a Phowys ac yn ategu ffocws ac ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i adfywio’r rhwydwaith rheilffyrdd drwy ddarparu gwasanaethau newydd a cherbydau (trenau a cherbydau), atebion arloesol a rhaglen sylweddol o fuddsoddi mewn gorsafoedd,” meddai’r adroddiad ar y cynnig.

“Bydd hefyd yn cefnogi adferiad ar ôl Covid – mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pwysleisio pwysigrwydd gwariant ar seilwaith i helpu i roi hwb i’r economi a sicrhau adferiad economaidd hirdymor.

“Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd pellach ar gyfer technolegau cynaliadwy sy’n gysylltiedig â’r sector rheilffyrdd (trydan, batri, cysylltiadau â chynhyrchu ynni cynaliadwy ac ati).”