Mae ffermwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn.

Bu farw John Owen, 63, yn dilyn y digwyddiad yn ei pick-up Isuzu Rodeo du ar Lon Leidr, Llandyfrydog ger Llannerchymedd, tua 5yh ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 28).

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu fod John Owen, oedd yn ddyn lleol, wedi marw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys, gan gynnwys criw Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd fod “marwolaeth sydyn ac annisgwyl yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd bob amser yn sioc ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â theulu Mr Owen ar yr adeg anodd hon”.

Apêl

“Mae uwch grwner cynorthwyol yr ardal, Ms Katie Sutherland, wedi cael gwybod am y farwolaeth,” meddai.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio yn ardal Llandyfrydog ar y pryd a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau dash-cam sy’n dangos yr Isuzu Rodeo du cyn y gwrthdrawiad i gysylltu drwy ar y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 21000526628.

“Caewyd y ffordd er mwyn caniatáu i’n Tîm Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal ymchwiliad trylwyr ac rwy’n ddiolchgar am yr amynedd a ddangoswyd gan ddefnyddwyr y ffordd y gallai eu taith fod wedi bod yn anghyfleus oherwydd y digwyddiad trist hwn.”

Cafodd y ffordd ei hailagor yn fuan ar ôl 9yh.