Mae Llywodraeth Cymru yn “sownd ym meddylfryd y cyfnod clo” pan ddylent fod yn “canolbwyntio ar symud tuag at adferiad” meddai Natasha Asghar, AoS Dwyrain De Cymru dros y Ceidwadwyr.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fydd rhaid i deithwyr o’r Undeb Ewropeaidd na’r Unol Daleithiau sydd wedi’u brechu’n llawn fynd i gwarantîn ar ôl cyrraedd Cymru, ond iddynt wneud hynny gan ddatgan eu bod yn “gresynu at gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantîn”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent yn dilyn Lloegr a’r Alban gan y “byddai’n aneffeithiol cyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru … gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr”.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â theithio tramor eto dros yr haf os nad yw’n hanfodol.

“Anwyliaid o dramor”

Wrth ymateb, mae Natasha Ashagar AoS yn dweud bod ei phlaid yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond bod sylwadau’r llywodraeth yn arwain at “ddryswch” i rai o bobol Cymru.

“Mae yna nifer o bobl ar hyd a lled y wlad yn mynd i fod yn bles iawn eu bod yn gallu gweld eu hanwyliaid o dramor – ond mae sylwadau fel hyn yn gallu achosi dryswch i bobl Cymru am beth maen nhw’n gallu gwneud,” meddai Natasha Asghar wrth Golwg360.

“Mae’n ymddangos i fi fod gweinidogion ym Mae Caerdydd yn parhau i fod yn sownd ym meddylfryd y cyfnod clo pan ddylent fod yn awyddus i symud tuag at feddylfryd o adferiad.

“Er enghraifft, mae’r diwydiant twristiaeth wedi profi ergyd drom ac wedi colli miliynau o bunnoedd oherwydd nad yw pobl wedi gallu teithio, felly rwy’n siŵr y byddant hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gyda breichiau agored.”

“Hoffwch e neu beidio rydyn ni dal yn deyrnas sy’n unedig…”

Ac mae Natasha Asghar yn hawlio bod “Llywodraeth Cymru yn creu anghydraddoldeb rhwng pobl yng Nghymru a phobl yn Lloegr”.

“Yn Lloegr mae gan fusnesau’r hawl ailagor ac i ffynnu,” meddai, “tra yng Nghymru rydyn ni dal yn sownd gyda chyngor a rheolau covid-19.”

Ychwanegodd: “Mae angen nawr inni adfer rhyddid pobl ac mae angen i ni wneud hynny gyda’n gilydd, fel undeb, nid trwy bob gwlad yn y Deyrnas Unedig yn mynd ar drywydd eu hunain.

“Hoffwch e neu beidio rydyn ni dal yn deyrnas sy’n unedig, ac fe ddylwn ni fod yn gweithio’n unedig, gyda’n gilydd, i ddod mas o’r cyfnod clo mewn modd diogel wrth gwrs.”

Yn y datganiad am y cyhoeddiad, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod “risgiau yn parhau o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol” ac “o gael gwared ar gyfyngiadau cwarantîn i’r rheiny sy’n cyrraedd o’r Unol Daleithiau a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar y rhestr oren sydd wedi’u brechu’n llawn”.

Maen nhw’n dweud bod “risg uwch o fewnforio achosion ac amrywiolion o bryder,” ond yn cydnabod y bydd brechlynnau’n lleihau’r risg.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i’r sylwadau.

Dim cwarantîn i deithwyr o’r Unol Daleithiau na’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru sydd wedi’u brechu’n llawn

“Byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru,” medd Llywodraeth Cymru, sy’n “gresynu” at gynigion i ddileu rhagor o ofynion