Mae pobol ifanc yng Nghymru sydd ar fin troi’n 18 yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad Covid-19 cyntaf bellach.

Gan ddilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd pobol ifanc sydd o fewn tri mis o droi’n ddeunaw yn cael eu gwahodd i apwyntiad, neu gallan nhw fynd i glinig galw heibio os oes un yn y bwrdd iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio y bydd cyfran uchel o’r grŵp hwn yn manteisio ar y cynnig, gyda llawer ohonyn nhw ar fin dechrau gweithio neu ddechrau yn y brifysgol.

Erbyn hyn, mae bron i 80% o oedolion Cymru wedi cael eu brechu’n llawn – y gyfradd orau yn y Deyrnas Unedig, ac ymysg y gorau yn y byd.

“Gweithredu’n gyflym”

“Dyma gam nesaf ein rhaglen frechu lwyddiannus a’r cam cyntaf tuag at ddarparu brechlynnau i blant a phobl ifanc,” meddai’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, Gill Richards.

“Byddwn yn gweithredu’n gyflym i frechu plant a phobl ifanc 12-17 oed sydd yn y categorïau a gafodd eu nodi yng nghanllawiau diweddar y Cyd-bwyllgor ar frechu plant.

“Mae ein rhaglen frechu’n parhau i wneud cynnydd rhagorol, ac mae dros 2 filiwn o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu’n llawn.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar am waith holl staff y GIG, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog sy’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”

Grwpiau eraill

Mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn Covid-19 i blant a phobol ifanc 12 oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd penodol ac sy’n peri risg o fynd yn ddifrifol wael â Covid-19.

Ar hyn o bryd, mae’r Byrddau Iechyd wrthi’n nodi’r plant hynny er mwyn eu gwahodd i gael eu brechu.

Bydd plant a phobol ifanc 12 i 17 oed sy’n byw gyda rhywun – naill ai oedolyn neu blentyn – sydd â system imiwnedd wan hefyd yn cael cynnig brechlyn Pfizer yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru yn croesawu argymhellion y Cyd-bwyllgor Imiwneiddio a Brechu.

“Rydym yn croesawu cyngor y Cyd-bwyllgor ac yn cytuno â’r argymhellion. Ein tasg nawr yw gweithredu’r cam nesaf hwn o’r rhaglen frechu mor gyflym ac effeithlon â phosib,” meddai.

“Mae rhaglen frechu Cymru gyda’r gorau yn y byd ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan ohoni am eu cyfraniad i’w gwneud hi’n rhaglen mor llwyddiannus.

“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu, er mwyn helpu i’w diogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddyn nhw.”

Brechlyn pfizer

Cynnig brechlyn Covid-19 i rai plant dan ddeunaw oed

Y newid yn cynnwys ei gynnig i blant sydd bron yn ddeunaw; rhai sy’n agored i niwed gan Covid-19 a’r rhai sy’n byw gyda phobol sy’n agored i niwed