Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei ddiswyddo am ymddygiad rhywiol anaddas.

Fe wnaeth y cwnstabl Simon England ymddangos o flaen panel annibynnol yn Ebrill 2019 yn wreiddiol, yn dilyn adroddiadau am ymddygiad rhywiol anaddas, a sylwadau tuag at weithwyr ac am aelodau o’r cyhoedd.

Byddai penderfyniad y panel cyntaf hwnnw wedi golygu ei fod e’n gallu dychwelyd at ei ddyletswyddau, ond penderfynodd Heddlu Dyfed-Powys herio hynny.

Yn dilyn adolygiad barnwrol o’r gwrandawiad yn 2019, bu Simon England o flaen panel arall yr wythnos hon, dan oruchwyliaeth y Cadeirydd Sally Olsen.

Fe wnaeth Simon England gyfaddef i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, a derbyn fod ei ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Fodd bynnag, doedd e ddim credu fod ei ymddygiad yn cyfiawnhau cael ei ddiswyddo o’r llu.

Daeth y Panel i’r canlyniad fod ymddygiad Simon England yn golygu ei fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yn ymwneud ag awdurdod, parch a moesgarwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymddygiad cywilyddus, a chafodd ei ddiswyddo’n syth.

Roedd y camymddwyn yn cynnwys cyffwrdd cydweithwyr mewn ffordd anaddas gyda bwriad rhywiol, sylwadau anaddas tuag at gydweithwyr, a siarad am weithredoedd rhywiol y byddai’n hoffi eu gwneud ag aelodau o’r cyhoedd yr oedd e wedi dod ar eu traws.

Penderfyniad “cywir”

“Mae Heddlu Dyfed-Powys, yn gywir, yn disgwyl y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf gan ei swyddogion a’i staff, fel y mae’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a’u hamddiffyn yn eu disgwyl,” meddai’r Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter wedi’r ail wrandawiad.

“Ni all y llu oddef ymddygiad o’r fath, a wnawn ni ddim. Byddwn ni wastad yn gweithredu er mwyn amddiffyn ein swyddogion, staff, ac yn ddiamheuaeth, y cyhoedd.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cynnal hyder y cyhoedd yn y llu, a ni all hyder y cyhoedd gael ei gynnal drwy ganiatáu i unigolion sy’n ymddwyn yn y fath ffordd aros yn y sefydliad.

“Dw i’n falch o weld fod difrifoldeb y mater hwn wedi cael ei gydnabod nawr, a bod y panel wedi dod i’r canlyniad fod ei ymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol. Mae hyn yn cadarnhau fod y penderfyniad i herio’r canlyniad gwreiddiol drwy adolygiad barnwrol yn un hollol iawn.”