Mae YesCymru wedi cyhoeddi y bydd aelodau yn cael y cyfle i ethol Pwyllgor Canolog newydd.
Dywed y grwp y bydd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig o aelodau yn cael ei gynnal ym mis hydref lle bydd aelodau presennol y Pwyllgor yn cynnig eu swyddi am etholiad.
Gwnaed y penderfyniad i gynnal y cyfarfod ar ôl galwadau i wneud hynny gan nifer o ganghennau YesCymru lleol, ac yn dilyn galwadau ar y cyfryngau cymdeithasol i aelodau’r Pwyllgor presennol ymddiswyddo.
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i YesCymru, gyda ffraeo mewnol ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a Siôn Jobbins yn penderfynu rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd.
Yn dilyn penderfyniad Siôn Jobbins, fe wnaeth Iestyn ap Rhobert, un o gyd-sylfaenwyr a chyn-gadeirydd Yes Cymru, alw ar saith aelod o’r pwyllgor canolog i gamu o’r neilltu.
Ac yn fwy diweddar, bu’n rhaid i YesCymru wahardd aelod tros ‘gartŵn gwrth-Semitaidd’.
“Newidiadau cyfansoddiadol”
Dywedodd datganiad gan Bwyllgor Canolog YesCymru: “Bydd YesCymru yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig o aelodau (CCA) yr Hydref hwn, ble bydd llawer o newidiadau cyfansoddiadol ar y bwrdd.
“I gyd-fynd â’r CCA, byddwn ni, yr aelodau sy’n weddill o Bwyllgor Canolog YesCymru, yn rhoi ein seddi ein hunain ymlaen ar gyfer etholiad, ac yn rhoi cyfle i’r aelodaeth ethol Pwyllgor Canolog newydd.
“Yn ddiweddar bu galwadau gan nifer o’r grwpiau YesCymru lleol am gynnal CCA, yn unol â’n cyfansoddiad ysgrifenedig, ac rydym ni fel y Pwyllgor Canolog yn falch o gyflawni’r cyfarwyddyd hwn.
“Bydd y cyfarfod yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â materion strwythurol yn ein cyfansoddiad presennol, dogfen sydd wedi gweld mân newidiadau yn unig ers lansio YesCymru yn 2016.
“Rydym yn cydnabod bod y sefydliad heddiw – sydd â 18,000 o aelodau, llawer o grwpiau lleol, ac aelodau staff cyflogedig – yn anadnabyddadwy o’i gymharu â mudiad y blynyddoedd cynnar.
“Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cenedlaethol ddydd Sadwrn (31 Gorffennaf), byddwn yn lansio Gweithgor CCA, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r grwpiau ac o’r Pwyllgor Canolog, a fydd yn trafod ac yn datblygu’r holl newidiadau a gynigir i’r CCA i sicrhau cydlyniant. Bydd union ddyddiad a manylion eraill yr CCA yn cael eu pennu gan y Gweithgor.
“Dros y ddau fis diwethaf ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ble cawsom ein hethol, rydym ni fel y Pwyllgor Canolog oll wedi rhoi llawer o’n hamser a’n hegni i weinyddu’r mudiad, ar draul mawr i’n bywydau personol a’n lles meddyliol.
“Yn yr amser yma, mae wedi dod yn fwyfwy anodd i weithredu’n effeithiol fel pwyllgor, oherwydd ymddiswyddiadau aelodau’r pwyllgor, a llawer o aflonyddwch ynghylch y nifer o bobol a oedd yn medru pleidleisio yn yr etholiad uchod.”
“Dweud eu dweud”
“Rydym eisiau rhoi’r hawl i’r aelodaeth gyfan i ddweud eu dweud, felly dyma beth y byddwn yn ei wneud.
“Rhwng nawr a’r CCA byddwn yn ymofyn enwebiadau ar gyfer y 12 sedd, ac yna’n agor y cyfnod pleidleisio yn dilyn y cyfarfod.
“Bydd yr etholiad ar-lein yn aros ar agor am gyfnod o wythnos a bydd ar gael i bawb sy’n aelodau pan fydd yr etholiad yn cael ei alw, ni waeth a wnaethant fynychu’r CCA ai peidio.
“Ar gyfer y nifer fach o aelodau na allwn gysylltu â nhw trwy e-bost, byddwn yn anfon pleidleisiau post.
“Byddwn hefyd yn cynnig dull pleidleisio ffafriol ar gyfer ethol aelodau, yn hytrach na ‘cyntaf i’r felin’. Bydd yr etholiad yn cael ei redeg gan wasanaeth pleidleisio etholiad allanol.
“Rydym nawr yn annog pob aelod i’n cefnogi fel pwyllgor ymadawol yn y dasg o redeg y sefydliad rhwng nawr a’r CCA, fel y gallwn ni – gyda chymorth y grwpiau a’r aelodau – roi newidiadau cadarnhaol ar waith, yn barod ar gyfer y pwyllgor nesaf.
“Fel mudiad annibyniaeth ehangach, rhaid i ni ddangos parch at ein gwahaniaethau o fewn mudiad amhleidiol a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n ein huno – yr awydd am Gymru annibynnol.”