Mae un o gyd-sylfaenwyr a chyn-gadeirydd y mudiad annibyniaeth Yes Cymru yn galw ar saith aelod o’r pwyllgor canolog i gamu o’r neilltu.

Daw’r alwad gan Iestyn ap Rhobert yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd Siôn Jobbins “am resymau personol” ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 9).

Mewn neges ar Twitter, dywed Iestyn ap Rhobert y dylai Llywelyn ap Gwilym, Sarah Rees, Ben Gwalchmai, Carys Eleri, Elin Hywel, Rachel Cooze a Tori West “dychwelyd rheolaeth dros Yes Cymru i’w haelodau”.

Mae’n dweud bod eu mis a hanner wrth y llyw “wedi bod yn fethiant”.

“Mae YesCymru’n eiddo’i haelodau,” meddai.

“Rhaid i’r Pwyllgor Cenedlaethol ildio rheolaeth yn gyfansoddiadol ac ailsiapio’r sefydliad i gyflwyno tryloywder a rhoi’r holl atgasedd ymhlith ei haelodaeth o’r neilltu er lles yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru.

“Pe bai hyn yn cael ei wneud, rwy’n credu y gallai YesCymru unwaith eto fod y llais crys, unedig sydd ei angen ar Gymru i sicrhau ein hannibyniaeth.

“Mae llais ein YesCymru NI gyda’r 18,000 o aelodau. Cymru rydd!”

Pleidlais o ddiffyg hyder

Yn y cyfamser, mae deiseb wedi’i sefydlu yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog.

Yn ôl y ddeiseb, a gafodd ei sefydlu gan Mike Murphy ac sydd wedi cael degau o lofnodion hyd yn hyn, “cafodd YesCymru ei sefydlu fel mudiad llawr gwlad ag un nod unigol a syml – sicrhau annibyniaeth i Gymru”.

“Mae wedi tyfu’n un o’r mudiadau gwleidyddol mwyaf yng Nghymru, wedi’i yrru gan ymroddiad a chefnogaeth ei aelodau,” meddai.

“Fodd bynnag, mae nifer fach o ymgyrchwyr wedi sleifio i’r mudiad sydd â mwy o ddiddordeb mewn defnyddio YesCymru fel cerbyd i hyrwyddo (ac ariannu) eu hagendâu niche eu hunain, ac mae ganddyn nhw fwy o obsesiwn â gwleidyddiaeth rhywedd nag annibyniaeth.

“Mae’r grŵp hwn wedi llwyddo i drefnu canlyniadau’r etholiadau ar gyfer y Pwyllgor Canolog ac maen nhw bellach wedi cymryd drosodd y mudiad i bob pwrpas – gan wthio allan rai o’i sylfaenwyr ac arweinwyr sy’n uchel eu parch.

“Maen nhw wedi troi at ymosod yn bersonol ar unrhyw un sy’n anghytuno â nhw sydd wedi arwain at gwynion i’r heddlu a chamau cyfreithiol sydd ar y gweill.

“Mae angen i ni adennill ein mudiad cyn bod y clowniaid yma’n ei ddinistrio.

“Rwy’n galw ar bob aelod o YesCymru i alw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y Pwyllgor Canolog presennol a’i ddisodli gan bwyllgor sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd, ac i ddilyn un nod unigol: Annibyniaeth i Gymru.”

Ymateb Yes Cymru

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Yes Cymru mai “gweld y neges yn ail law” wnaeth y mudiad.

Dywedodd fod y mudiad yn “drist iawn” ynghylch ei sylwadau, “ond y gobaith yw edrych ymlaen i’r dyfodol” ac “nad yw’r dadlau rhyngon ni ddim yn iach i neb”.

Dywedodd fod croeso i Iestyn ap Rhobert gyflwyno’i enw i gael ei ethol i’r pwyllgor canolog yn yr etholiadau nesaf.