Mae gwyddonydd yn rhybuddio y gallai lefelau brechu uchel yn erbyn Covid-19 “herio’r feirws” i greu amrywiolion fyddai’n fwy anodd eu rheoli, ac y byddai’n “beryglus” bwrw ymlaen gyda’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau yr wythnos nesaf.
Y gobaith yw llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr ar Orffennaf 19, ond mae Dr Mike Tildesley, sy’n aelod o bwyllgor Spi-M, yn dweud bod yna “risg” wrth wneud hynny.
Yn ôl gwyddonydd arall, yr Athro Helen Stokes-Lampard, cadeirydd Academi’r Colegau Brenhinol Meddygol, daw’r cynllun i lacio ar adeg pan fo marwolaethau ar gynnydd eto.
“Mae’n ymddangos bod yna gamddealltwriaeth y bydd bywyd yn dychwelyd i’r arfer o hynny ymlaen (Gorffennaf 19), ac y gallwn ni daflu’r holl ragofalon i’r naill ochr ac, yn blwmp ac yn blaen, byddai hynny’n beryglus,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
Daw’r rhybuddion wrth i lefelau’r haint mewn rhannau helaeth o Loegr ddychwelyd i’r hyn oedden nhw yn ystod y gaeaf, gyda lefelau’r derbyniadau i ysbytai hefyd wedi codi i’r hyn oedden nhw dri mis yn ôl.
Ac fe fu cynnydd bach yn y cyfraddau marwolaeth hefyd.
Ond mae’r lefelau’n dal yn sylweddol is nag yr oedden nhw yn ystod deufis cynta’r flwyddyn.
Yn ôl Dr Mike Tildesley, mae gan Lywodraeth Prydain “benderfyniad anodd iawn” i’w wneud, ac mae’n cydnabod fod y sefyllfa’n “arbrawf” er bod lefelau brechu gwledydd Prydain yn uwch na rhan fwya’r byd.
Wrth i fwy o bobol gael eu brechu, mae’n dweud y bydd amrywiolyn Delta yn dod yn llai peryglus, ond fod disgwyl i imiwnedd fod ar ei anterth ym mis Awst.
“Mae yna risg o hyd o ran Gorffennaf 19 yn nhermau agor mwy o bobol i fyny i haint o ganlyniad i ragor o ailagor,” meddai.
‘Gwaethygu cyn gwella’
Mewn datganiad, mae Academi’r Colegau Brenhinol Meddygol yn rhybuddio y bydd “pethau’n gwaethygu cyn iddyn nhw wella”.
Yn ôl yr Athro Helen Stokes-Lampard, mae hi’n “gofidio’n fawr” am lacio’r cyfyngiadau, ac yn rhybuddio y byddai hynny’n rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
Er mwyn ymateb i’r pwysau hynny, mae Downing Street eisoes yn dweud y gallai staff y Gwasanaeth Iechyd gael eu heithrio o orfod hunanynysu pe baen nhw’n cael eu hysbysu gan yr ap olrhain cysylltiadau.
Yn ôl yr Athro Helen Stokes-Lampard, mae hynny’n “gam nesaf synhwyrol”.