Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n bwysig i ysgolion a cholegau yng Nghymru “ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd” cyn gynted â phosib.

Daw sylwadau Laura Anne Jones, llefarydd addysg y blaid, ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles gyhoeddi tri phrif gynnig i ysgolion er mwyn dod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl cyn tymor yr hydref.

Fel rhan o’r newidiadau, fydd dim angen gwisgo mygydau yn rheolaidd mewn ystafelloedd dosbarth ym mis Medi.

Mae Jeremy Miles wedi ysgrifennu ar bob pennaeth ysgol yng Nghymru i roi mwy o eglurder ynglŷn â sut y gall ysgolion a cholegau barhau i weithredu’n ddiogel yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Wrth barhau i fonitro cyfraddau achosion Covid ledled Cymru, a sut maen nhw’n effeithio ar dderbyniadau i ysbytai, mae llwyddiant y rhaglen frechu yn rhoi achos i fod yn optimistaidd ynghylch y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.

Gyda chyfyngiadau’n llacio ar draws y gymdeithas, dylai lleoliadau addysgol weld yr un patrwm, meddai.

Ni fydd angen grwpiau cyswllt mwyach ar gyfer disgyblion ysgol na dysgwyr llawn amser mewn colegau chwaith, a bydd y system Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei defnyddio er mwyn nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi’n bositif.

Croeso gofalus

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, gan gydnabod mai llacio yw’r “peth cywir i’w wneud”, ond maen nhw’n dweud bod angen “mwy o eglurder” ynghylch cyfrifoldeb ysgolion wrth reoli’r haint.

“Mae tynnu mygydau, dileu swigod a dechrau graddedig yn rhannau o’r datganiad sydd i’w croesawu, a dw i’n falch fod y gweinidog bellach yn cydnabod yr angen i’r penderfyniadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, sef y peth cywir i’w wneud,” meddai Laura Anne Jones.

“Fodd bynnag, rwy’n gofidio o hyd na fydd fframwaith penderfyniadau rheoli haint Covid-19 difrïol iawn Llywodraeth Lafur Cymru’n barod tan ddechrau tymor yr hydref.

“Mae angen mwy o eglurder ar ysgolion ynghylch lefel eu cyfrifoldeb cyn gynted â phosib a rhaid i’r manylyn pwysig hwn gael ei hwyluso gan weinidogion Llafur.”

Dim angen mygydau yn y dosbarth fis Medi, meddai Llywodraeth Cymru

Yn ôl Jeremy Miles, mae mwy o dystiolaeth yn dangos bod plant a phobol ifanc yn profi mwy o niwed o golli’r ysgol nag yn sgil covid