Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig 29 o leoliadau gwaith dros Gymru i bobol ifanc 16-24 oed fel rhan o gynllun swyddi Kickstart.
Mae’r swyddi’n amrywio o waith gweinyddol a marchnata i swyddi blaen tŷ, ac mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob swydd, ond mae’r rhwydwaith yn siomedig gyda’r niferoedd sydd wedi ymgeisio – problem gyda Kickstart sy’n ehangach na’r Mentrau Iaith yn unig.
“Mae’r swyddi hyn yn profi i bobol ifanc bod gwerth i’w sgiliau Cymraeg y tu hwnt i waliau’r ysgol,” meddai Iwan Hywel, arweinydd tîm Mentrau Iaith Cymru.
“Fel rhan o’n maniffesto i Lywodraeth Cymru yn 2020 ry’n ni’n galw am ‘gyngor gyrfa sy’n cynnwys cyfarwyddyd penodol am y Gymraeg’.
“Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn cyflogi dros 300 o unigolion ar hyd a lled Cymru drwy wahanol brosiectau a chwmnïau gyda’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob un ohonynt sydd yn profi bod medru’r Gymraeg yn agor drws i leoliadau gwaith.
“Er bod oddeutu 25,000 o bobl ifanc 16 oed yn gadael yr ysgol gyda rhywfaint o sgiliau iaith Gymraeg y flwyddyn, mae’n siomedig nad ydynt yn teimlo digon hyderus i ymgeisio am swyddi yn yr iaith.
“Hoffai’r Mentrau Iaith weld hyn yn newid.
“Felly rydym yn annog unrhyw un sy’n gymwys i ymgeisio am y swyddi hyn, gan adnabod gwerth eu Cymraeg gan fynd amdani heddiw.”
Trafferthion wrth recriwtio
Nid y Mentrau Iaith yn unig sy’n cael trafferthion recriwtio ar gyfer lleoliadau ble mae’r Gymraeg yn angenrheidiol drwy’r cynllun Kickstart.
Yn ôl Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog a Dolan, mae “her anferthol” i bobol ifanc a chymunedau.
“Ond rydym yn credu’n gryf bod yr her yma yn creu cyfleon unwaith mewn cenhedlaeth,” meddai.
“Dyma gyfle i osod cynsail o gyd-weithio a chefnogi ein pobl ifanc a’n heconomïau lleol i’r dyfodol.”
Yn rhan o’r cynllun Kickstart Llywodraeth y DU, mae’r lleoliadau gwaith yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n derbyn credyd cynhwysol er mwyn dychwelyd i’r byd gwaith.
“Ry’n ni’n cydnabod bod nifer o bobol ifanc wedi dioddef yn dilyn y pandemig a heb allu cadw swydd,” meddai llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Pwrpas swyddi Cynllun Kickstart yw gwella cyflogadwyedd a’r siawns o gyflogaeth barhaus i’r rheini sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir yn y grŵp oedran 16-24 oed.”