Mae Heddlu Llundain dan bwysau i ymchwilio i sut y cafodd llofrudd Sarah Everard barhau yn ei waith er bod amheuon ers tro am ei ymddygiad.

Roedd Wayne Couzens, 48, wedi’i amau o ddinoethi ei hun dair gwaith cyn iddo gipio’r ddynes 33 oed yn Clapham ar Fawrth 3.

Mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 9), plediodd e’n euog i gyhuddiad o lofruddio ar ôl cyfaddef eisoes iddo ei chipio a’i threisio.

Mae nifer o grwpiau ymgyrchu’n galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i “fethiannau a chamymddwyn” yn yr heddlu.

Arweiniodd y llofruddiaeth at brotestiadau eang gan fenywod oedd yn poeni am eu diogelwch.

Ymhlith y rhai sy’n galw am ymchwiliad mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartref y blaid yn San Steffan.

“Mae’r gymdeithas yn ymddiried yn fawr yn yr heddlu i’n cadw ni’n ddiogel a bydd y rhan fwyaf o blismyn sy’n gwasanaethu eu cymunedau mor ddewr wedi’u ffieiddio gan yr achos hwn,” meddai.

“Mae’n gwbl hanfodol fod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau na all hyn ddigwydd byth eto.

“Rhaid i Heddlu Llundain a phlismona’n fwy eang edrych ar eu prosesau gwirio a’u systemau amddiffyn eu hunain er mwyn sicrhau na all pobol sy’n fygythiad i’r cyhoedd ddal y fath safleoedd mae ymddiried mawr ynddyn nhw.”

Ymchwiliadau

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dechrau ymchwiliad i fethiannau honedig gan Heddlu Caint i ymchwilio i honiadau o ddinoethi yn erbyn Wayne Couzens yn 2015.

Mae’r Swyddfa hefyd yn ymchwilio i fethiannau gan Heddlu Llundain i ymchwilio i ddau achos honedig o ddinoethi yn erbyn Couzens yn Llundain fis Chwefror eleni, ac mae dau blismon yn destun ymchwiliad am achosion posib o dorri safonau proffesiynol.

Mae 12 o achosion posib o gamymddwyn neu gamymddwyn difrifol yn erbyn plismyn mewn perthynas â’r achos hyd yn hyn.